Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/112

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

90
COFIANT
PEN. XII.
CYMDEITHAS A'R BYD ANWELEDIG.
"Wrth gofio'r Jerusalem fry, y ddinas preswylfa fy Nuw,
Y saint a'r angelion y sy', yn canu caniadau o bob rhyw;
Ac yno mae nhrysor i gyd, 'nghyfeillion a'm brodyr o'r bron,
F'y nghalon sy'n brefu o hyd, am fyned yn fuan i hon."--w.w.
MEWN canlyniad i fod ei meddwl yn tremio llawer
ar amgylchiadau marwolaeth ei thad, ehedodd ei
dychymyg yn fywiog, tebygem mewn math o freu-
ddwyd, a chafodd olygfa hyfryd i'w meddwl ar ry-
feddodau y nef. Gwelai ei hun wedi cyraedd y lle
dedwydd hwnw, ac yn ymddyddan yn felus efo ei
thad a'i mam. Adwaenai bawb yno ar darawiad
amrant; a synai at yr olwg hawddgar, lawn o dang-
nefedd, a welai ar bob wyneb. Ond yr hyn a eff-
eithiodd fwyaf ar ei chalon oedd yr olwg annesgrif-
iadwy o hawddgar a gafodd ar Dywysog mawr y
Bywyd. Dywedai ei thad wrthi nad oedd hi i aros
yno yn awr, ond na fyddai hi ond ychydig amser
oyn y deuai yno i drigo. Y mae yn bosibl mai
cynyrch dychymyg bywiog, wedi ei gyffroi gan
fyfyrdodan cryfion, mewn corff gwan, oedd yr ol-
ygfa: ond diameu iddi effeithio cryn lawer er sirioli
ei meddwl. Mewn cyfeiriad at yr amgylchiad yr

  • Y mae i'r darllenydd roesaw i farnu drosto ei hun, ond fe'm

hesgusoda inau am goffhau y sylwadau canlynol o eiddo y
duwiol John Newton ar y pwnc:-"Y rhai a addefant yr
yegrythyrau, a addefant fod breuddwydion neu ddatguddied-
igaethau goruwch-naturiol wedi eu derbyn lawer gwaith yn
gyfarwyddiadau mewn perthynas i, neu i rag-fynegi, dygwydd-
iadau dyfodol; a'r rhai sydd yn adnabyddus & hanes a phrofiad
pobl Dduw, a gaent eu sicrhau nad ydyw amlygiadau o'r fath
wedi eu cwbl atal mewn unrhyw oes hyd y dydd hwn; ac yn