Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/117

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

95
MRS. EDMUNDS,
PEN. XIV.
TORIAD Y WAWN.
"Gad, llu a'i gorfydd, ac yntan & orfydd o'r diwedd,"
"Byth cofiaf mwy y lle a'r man,
Dylifodd gwin i'm henaid gwan,
Yn ffrwd ddidrai o'r nefoedd draw,
Nes gwella'm briw a dofi'm braw;
Ce's wel'd yn rhodd fod Duw o'm rhan,
Yn briod gwiw i'm henaid gwan;
'N arfaethu'm dwyn i ben fy nhaith,
O eithaf trag'wyddoldeb maith."-W. W.
Yr ydym erbyn hyn yn tynu i lawr yn mhell i'r
dyffryn, lle mae awelon brafo'r tu arall i'r Iorddonen
yn cyraedd drosodd i loni a chryfhau y pererinion.
Un diwrnod, tua mis cyn iddi orphen ei gyrfa, wedi
bod mewn ymdrech galed am ychwanego oleuni
cyn myned drwodd-pan ddaeth yr ysgrifenydd
adref, wedi dygwydd bod yn absenol trwy y dydd,
edrychodd i'w wyneb gyda sirioldeb anarferol, a'i
llygaid yn llawn o ddagrau, a dywedai:-"De'wch
i mewn, eisteddwch yn y fan yma, fy anwylyd,
y mae yn dda iawn genyf eich gweled; y mae
genyf secret i'w ddyweyd wrthych heddyw. Yr
wyf wedi cael diwrnod hyfryd; y mae y Dyddanydd
wedi bod yma trwy y dydd: nis gallasai neb arall
wneyd yr hyn a wnaeth efe i mi heddyw. Yr wyf
wedi cael goleuni rhyfedd ar addewidion Duw.
Gallaf heddyw eu mabwysiadu oll yn eiddo i mi fy
hun. Gallaf yn awr yn ddibetrus ddyweyd, 'Abba,
Dad'." Gofynais iddi, beth oedd hi yn ei dybio o'r
hen grefydd? "0" meddai hithau, "yr oedd yn
gywir trwy bob peth: ond yr wyf wedi bod yn
Armin trwy fy holl fywyd. 'Roedd arnaf eisieu
gweithio, a gweithio, a gweithio; yn condemnio fy