Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/126

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

104
COFIANT
PEN. XVII.
AWYDD MYNED TRWODD.
"Mae'r pomgranadau pêr, mae'r peraroglau rhad,
Yn magu hiraeth cryf am hyfryd dy fy Nhad;
0! Salem bur, 0! Seion wiw,
Fy nghartref I a chartre'm Duw."-W. W.
FEL yr oedd ei hymadawiad yn nesau, yr oedd ei
ffydd hithau yn cryfhau; yr oedd Iesu Grist a'r
nefoedd wedi myned a'i bryd yn llwyr. Llawer a
ganodd hi, a ninau gyda hi, ar y llinellau hyfryd a
ganlyn, am y Jerusalem sydd fry:-
"O! Salem, fy anwyl gartrefle,
Mae'th enw'r pereiddia erioed;
Pryd derfydd fy llafar a'm lludded,
O'th fewn mewn llawenydd a chlod?
Pa bryd caiff fy llygaid I weled,
Dy byrth sydd o berlau mor ddrud,
A'th euraidd heolydd glan, dyaglaer,
A'th furiau sy'n sefyll o byd?
Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd,
Pa bryd i'th gynteddau caf ddod?
Lle na fydd cyn'lleidfa yn ysgar,
Na diwedd i'r Sabboth yn bod," &c.
A'r penill tlws hwnw :-
"Myrdd o fy mrodyr anwyl sy,
Yn gorphwys yn y nefoedd fry:
'Nghyfeillion goreu sydd mewn hedd,
Yn canu'n iach tu draw i'r bedd."
yn nghyda'r "Gân ar farwolaeth amryw o rai duw-
iol" o hen Lyfr Hymnau Williams. Yr oeddynt yn
gwefreiddio ei henaid yn fath fodd, fel yr ofnodd
yr ysgrifenydd amryw weithiau fod tywyniadau