Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/127

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
105
mor gryfion mewn perygl i lethu ei natur wan.
Ond o'r diwedd, aed hyd y terfyn, a gwaeddodd
allan,"O! y maent yn beautiful, beautiful, beau-
tiful! Yr ydych wedi fy moedro I efo'r fath berl-
au heirdd, yr wyf fi yn awr yn rhy wan i edrych
ar y fath ryfeddodau. Buasai un o honynt yn
llawn cymaint ag a allaswn I ddal; ond pan ddof
fi yn ddigon cryf, mi a fynaf edrych i mewn iddynt
oll." Yna cododd ei llaw, a dywedodd,-"pwy all
ddyweyd pa faint fydd tragywyddol bwys gogon-
iant! Pe dywedasai y Doctor wrthyf heno y caw-
swn wella, cawswn siomedigaeth fawr." "Ond beth
pe caech chwi gwbl wella?" meddai un oedd yno;
"Ie," meddai hithau, "pe cawswn gwbl wella; ond
serch hyny, mi fuaswn yn ymostwng i ewyllys fy
Nhad." "Yr ydych yn cofio," meddai yr ysgrif-
enydd, "eich bod mor dywyll a phryderus a min-
au;" "Ydwyf, a thywyllach o lawer; darllen a
darllen y Beibl, a chael dim o hono, ond eto dal ati."
"Onid yw yr Arglwydd wedi bod yn dda iawn i
ddanfon goleu erbyn yr adeg?" "O ydyw," medd-
ai hithau, "it is like him-(y mae yn debyg iddo.)
Eisteddodd ei hunan wrth enau y ffwrn."
""
Fel esiampl o wirionedd diffuant yr hyder a
ddangosai, coffhawn eto un amgylchiad oedd yn
dangos cryfder meddwl yn nghyda sicrwydd ffydd
wrth weled camrau angeu yn nesau. Cafodd
fod ei throed yn marw (mortifying); gwenodd
yn siriol, a dymunodd gael ei weled. "Yn awr,"
meddai, "nis gallaf fod yn faith; yr wyf yn ofni
myned yn anymarhous, ond y mae arnaf hiraeth
am fyned.' Pan y ceisiai y meddyg, (yn ol eu
harfer hwy) ddangos y perygl yn llai, dywedai yn
ddifloesgni nad oedd angen am iddo gelu oddiwrthi
hi fod angeu yn dyfod; ei bod wedi parotoi, ac yn
barod i'w gyfarfod. Dywedai un wrthi y dydd
canlynol, "y mae eich troed yn ddrwg iawn."
"Goreu i gyd, bydd drosodd yn gynt," meddai