Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/15

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

RHAGDRAETH .

ix

fel cenadwr cartrefol mewn tref fechan Seisnigaidd yn yr un
sîr, o'r enw Lacharn ; lle nad yw yn enwog hyd y gwn i am
ddim, oddieithr mai yno y bu fyw Mrs. Bevan , yr hon a
wnaeth gymaint o les trwy sefydlu ysgolion dyddiol yn holl
siroedd Cymru, mewn cyd-weithrediadâ'r Parch . Griffith Jones,
Llanddowror ; ac mai yno hefyd y cododd James Williams, y
cenadwr ffyddlawn yn Llydaw ; ac mai gerllaw yno y ganwyd
Charles o'r Bala, a Charles o Gaerfyrddin. Dyddiau dedwydd
oedd y rhai hyny, yn enwedig pan fyddai James Williams a
minau yn cyd -gerdded o Lacharn i Pentowyn, i ymweled â
Mr. Lloyd , neup an fyddai yr hen bererinion hawddgar John
Morgan o Meudrim , neu Samuel Anthony o Gydweli, yn talu
ymweliad i ni yn Lacharn . Nid oeddwn y pryd hwnw ond
bachgenyn dibrofiad a diwybod : er hyny yr oedd ynof ryw
syched anniwall am wybodaeth , yr hyn oedd yn tueddu amryw
frodyr duwiol , hen a ieuainc, i edrych arnaf gyda mesur mawr
o ddrwgdybiaeth. Ond nid am danynt hwy, nac am danaf fy
hun, yr oeddwn yn bwriadu son ; ond am y rhai oedd yn mysg
Methodistiaid y cyfnod hwnw yn bleidgar i addysg, ac yn
garedig i bregethwyr ieuainc ymofyngar am wybodaeth, pa
mor ddifedr bynag y gallai y cyfryw bregethwyr ymddangos .
Ychydig y mae pobl mewn oed yn feddwl fel y mae eu geiriau
yn effeithio ar yr ieuainc , fel y mae un ymadrodd tirion yn
byw yn y cof pan fyddont hwy eu hunain wedi myned i ffordd
yr holl ddaear . Y mae dynion hynaws i'w cael, a rhai yn
hynod felly , yn mhob gwlad : o'r hyn lleiaf dyna fel y mae
profiad wedi fy nysgu i feddwl am ddynolryw . Ond yr un y
derbyniais fwyaf o garedigrwydd oddiwrtho yn Sir Gaerfyrddin
oedd y rhagddywededig Mr. Lloyd ; a fy nyben penaf yn
cyfeirio at hyn ydyw, er mwyn cael cyfle i wneyd coffa
parchus am un o rai rhagorol y ddaear. Ni fu erioed gyfaill
mwy cywir , na christion mwy dirodres a diragrith. Yr oedd
yn un o'r rhai mwyaf doniol, amwyaf siriol, mewn ymddyddan ,
ac ar yr un pryd yn un o'r rhai mwyaf rhydd oddiwrth bob
ymgais i ddyrchafu ei hun trwy ddarostwng eraill. Yr oedd
yn ddiwygiwr trwyadl, nid mewn gair yn unig, ond mewn
gweithred a gwirionedd ; a'i arwyddair bob amser oedd "Ymlaen .”
Bu yn ddiacon am luaws o flynyddoedd yn Meudrim ; ac ni fu neb yn fwy ffyddlawn gydag achos Crist yn ei holl ganghenau .

Yn nesaf ato ef, gallesid enwi dau neu dri o frodyr eraill yn
yr un Sir ; ac yn eu plith mae yn hyfrydwch genyf gael
achlysur i wneyd crybwylliad am Dad yr - Athrawes o Ddifrif,”
yr hon y ceir hanes ei bywyd yn y tudalenau a ganlyn. Yr
oedd Mr. Jones mewn rhai pethau yn gwahaniaethu cymaint
ag oedd bosibl oddiwrth Mr. Lloyd : ac eto yr oedd ganddo
yntau ei ragoriaethau. Dyn hynaws, tawel ydoedd : ni chlywid