Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/160

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

138

COFIANT

Ac isllif dwfn o grefyddolder mwy
Yn murmur drwy eu holl ymddygiad hwy.
Nid dyma'r mawredd a gaumola 'r byd,
Nid dyma'r goron a enilla 'i fryd ;
Ond O ! os medd y ddaear ddyben sy'

Yn deilwng o uchelfryd engyl fry,
Hwn yw - cymhwyso enaid at ei waith,
A'i iawn gyfeirio i'w DDIDERFYN DAITH !
O gylchoedd defnyddioldeb nid oedd un
Rhy isel neu gyffredin iddi hi.
Cyfrifa ambell un yn orchwyl gwael
Cymeryd dyn i'w law er addysgâd
Tra fyddo ’n blentyn . - Rheidiol iddo ef
Cyn estyn iddo yr arweiniol law

A'i tywys tua bröydd llonydd llên,
( Lle gorwedd crebwyll yn y breis borfeydd ,
A'i nefoedd claer ei hunan uwch ei ben );
Neu tuag ymyl taweledig fôr
Athroniaeth , sydd yn troi y crëad oll
Yn ddwfn o Feddwl ac egwyddor bur,
Y cenfydd myfyr ynddo yn y man ,
Nid deddfau, ond y Deddfwr mawr ei hun,
A'i wyneb oll yn gariad ac yn hedd :
Cyn gwneuthur hyn rhaid i'r dysgawdwr hwn
Gael dysgybl fyddo eisoes ar y daith
Flynyddau'n mlaen , a'r cryd a mebyd mwy
Fel blodau wedi cau yn mhellder adgof;
A’r Enaid mawr fel palas ar y bryn,
Ei holl gyneddfau fel ffenestri claer
Yn gyflawn agoredig ar bob tu
I haul gwybodaeth .
Ond y mawr- air Dyn !
Yr oedd yn llawn o ystyr iddi hi,