xvi
RHAGDRAETH .
pwysig , pan ddeallant fod cadw tŷ yn lanwaith a threfnus yn fwy o glod iddynt na medru chwareu y piano, neu gamseinio
iaith y Ffrancod, a phan na fyddant yn foddlawn heb wybod. aeth ymarferol yn mhob rhan o drefnidiaeth teuluaidd, a hono yn seiliedig ar wybodaeth egwyddorol.
Y teulu, mae'n ddiau
yw y lle goreu i gyrhaedd y wybodaeth hon yn ymarferol ; ond er mwyn deall yregwyddorionyn drwyadl, mae yn ymddangos fod angen am ysgolion penodol i'r perwyl. Nid yr ysgol heb y teulu; ac nid y teulu heb yr ysgol. A'm dymuniad ar ran fy ngwlad ydyw, ar fod ei theuluoedd a'i hysgolion yn cyd weithredu yn hyn, ac yn mhob gorchwyl arall perthynol iddynt,
fel y byddo ei merched i'w hadnabod am eu rhagoriaeth yn mhob rhinwedd a daioni,