Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/28

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

6

COFIANT

“ Fy anwyl Gyfeillion ieuainc, Wrth edrych dros eich gwaith heddyw llanwyd fy meddwl yn

1. A llawenydd, wrth gofio am yr amser hyfryd a dreuliasom

yn nghymdeithas ein gilydd i lafurio ar y meusydd breision hyn .

2. A thristwch ac â galar, wrth feddwl nad yw yn debyg y cawn gyd - fwynhau yr un breintiau byth mwy yr ochr hyn. Er hyny, os cawn gymhorth y Nef i aros a myfyrio yn syml

ar y gwirioneddau am Grist, ni gawn ein cymhwyso a'n hadd asu i gydgyfarfod yn y wlad lle mae bod yn rhydd oddi wrth bob tristwch a gotid, a bod yn dragywyddol debyg iddo. Am hyny, na ddigalonwch , ac na laesed eich dwylaw ; ond ewch rhagoch gyda'ch gilydd, a byddwch yn fwy ymdrechgar nag erioed, oblegyd y mae elw o'r llafur hwn .

Wyf, anwyl gyfeillion ieuainc, eich diffuant ewyllysiwr da, a'ch diweddar athraw , THOMAS EVANS.”

“ Bwthyn Rhagluniaeth , Llanstephan, Tach . 29, 1836."

Dylid hefyd goffâu yn barchus am lafur Mr. G. Harris, blaenor parchus yn yr un lle, yr hwn, ar

symudiad Mr. Evans, a ymroddodd yn ddiwyd yn yr un maes o lafur.

Oni fyddai ymdrech i addysgu ieuenctid yr eglwysi

ar eu pen eu hunain, yn foddion i enillºdylanwad mwy, arnynt, ac i barotoi eu meddyliau yn well i dderbyn addysgiadau dyfnach wedi dyfod i oedran addfedach? Y mae ynddiau fod dawn neillduol yn

angenrheidiol tuag at hyfforddi y dosbarth hwn o deulu yr Arglwydd, ondnid oes dim gwaith angen rheidiol ei wneyd i'w esgeuluso o ddiffyg gweithwyr cyfaddas, canys Duw ysbrydion pob cnawd sydd yn

gorchymyn, Hyfforddia blentynyn mhen ei ffordd ;" à diau y gall efe godi offerynau addas i'r gwaith, ac na chaiff y diffyg byth fod o'i du ef. Cylch arall y bu ein Hathrawes yn mwynhau llawer o hyfrydwch ynddo, a'r hwn a barhaodd i weini llawenydd iddi hyd ddiwedd ei hoes oedd yr Ysgol Sabbothol. Yr ydoedd fel y soniwyd, wedi