Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/44

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

22
COFIANT
aidd a duwiolfrydig. Yr ydym i gael Cymanfa yn
mhen pythefnos. Yr wyf yn ofni ei chael heb gyfar-
fod â Duw, ac yr wyf yn arswydo iddi fyned heibio
heb i mi gael bod yn gyfranog o'i ras ef, yr hwn y
caf glywed cymaint am dano. Caniatied' yr Ar-
glwydd i mi gael "gwrando fel y byddo byw fy
enaid."
Mehefin 22. O! am gael bod yn ddifrifol mewn
gweddi am lwyddiant eglwys Dduw, ac am dy-
walltiad o'r Ysbryd Glân yn y Gymanfa ddyfodol.
Y mae cyflwr y dref yn galw yn uchel am fwy o
ymroddiad a thaerineb mewn gweddi. Gall Panl
blanu, ac Apolos ddyfrhau, ond Duw yn unig
sydd yn medru rhoddi y cynydd. Rhodded yr
Arglwydd lewyrch ei wyneb i'w weision, fel y
byddont yn traddodi y gair mewn nerth, ac yn yr
Ysbryd Glân. Y mae yn bosibl, er hyny, na chaf
ei gweled, ond gallaf weddio dros y rhai a glywant;
a gwnaed Duw fi yn barod, os bydd iddo weled yn
dda fy nghymeryd cyn hyny.
Mehefin 26.
Teimlais, ddoe, fy nghyfrifoldeb
fel athrawes yn fwy nag erioed. Y mae yn ystyr-
iaeth ddifrifol iawn y gofynir gwaed eneidiau ar ein
dwylaw yn nydd y farn. Nid oes genyf ddoeth-
ineb na deall cyfaddas i'r fath orchwyl, ond y mae
yn dda genyf feddwl fod Duw yn medru fy helpio
a pheri llwyddiant ar fy ymdrechiadau i osod yn
meddyliau y plant y gwirioneddau pwysig am eu
cyflwr wrth natur, a'r drefn o gadwedigaeth trwy
Grist Iesu. Yr wyf yn ymwybodol mai ychydig a
wn fy hun o'r gwirioneddau achubol hyn; ond
ceisiaf weddio yn daer ar Dduw, ar iddo ddy-
chwelyd fy enaid, a rhoddi i mi adnabyddiaeth o
hóno ef ei hun, a'm dysgu i "gadw fy nghalon yn
dra diesgeulus, oblegid allan o honi y mae bywyd
yn dyfod."