Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/50

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

28
COFIANT
Arest 15.
undeb cyflawn & phobl Dduw, ac yn gobeithio gallu
byw yn nes ato nag erioed. Yr wyf yn meddwl y
gallaf ddywedyd fy mod yn caru cynteddau yr
Arglwydd yn fwy na dim arall, a "dewiswn gadw
drws yn nhý fy Nuw o flaen trigo yn mhebyll
annuwioldeb." O am breswylio yn ei dy ef byth!
Mor belled ydwyf oddiwrth Dduw;
crwydrais oddi ar ei ol, ac aethum ar ol dychymyg-
ion fy nghalon dwyllodrus fy hun. Iesu! galw yn
ol ddafad grwydredig; bydded i mi edrych ar Grist
a'i groes. Y mae profedigaethau y byd yn fwy nag
y gallaf eu gwrthsefyll. Ymddiriedais i'm nerth fy
hun, a'r Arglwydd a'm gadawodd i mi fy hun.
y fath felldith ydyw calon wrthgiliedig! I ba le y
troaf am gysur neu gynaliaeth, os ydwyt ti, 0
Arglwydd, wedi fy ngadael. O y fath eiriau gwerth-
fawr ydyw y rhai hyn, "Meddyginiaethaf eu hym-
chweliad hwynt; caraf hwynt yn rhad, canys trodd
fy nig oddiwrtho." A fedri di byth garu un mor
druenus? O na fedrwn inau dy garu uwchlaw pob
peth arall. Nertha fi i fyfyrio arnat, ac ar dy gariad
tra y'm gadewir yma; a phan y byddwyf yn marw,
derbyn fi i'th dragywyddol deyrnas.
Awst 18,-
"Jesus let thy pitying eye
Call back a wandering sheep;
False to thee, like Peter, I
Would fain like Peter weep.
"Let me be by grace restored,
On me be all long suffering shown;
Turn and look apon me Lord,
And break my heart of stone."
Yr wyf wedi meddwl fod y penill uchod yn addas
i'm sefyllfa; yr wyf yn barod i ymbellhau oddiwrth
Dduw. Bydd drugarog wrthyf, bechadur truenus.
Medi 30. Yr wyf wedi bod, er ys tro bellach,
yn ansefydlog o ran fy nghorff a'm meddwl. 0!