Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/52

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

30
COFIANT
gallaf fod yn sicr nad ydyw wedi gwneyd dim i'r
galon. Ti, Arglwydd, a wyddost, fod fy nhymer
ya wrthnysig, fy ysbryd yn falch ac uchelfrydig. Yr
wyf yn gwybod nad oes neb a fedr eu cyfnewid, ond
tydi; O! sancteiddia fi; "crea ynof galon lan, ac
adnewydda ysbryd uniawn o'm mewn." Brysia,
Arglwydd, i'm gwared o gaethiwed fy nwydan
drygionus fy hun.
"Pan ddenir fi o'r ffordd
Gan elyn is y rhod,
Yn fuan dwg f 'n ol
Yn agos at dy droed."
Hydref 19. Y mae angeu yn brysur yn tori i
lawr bob oedran. Y mae Mrs. H. wedi ein gadael.
0! na chymerem rybudd, a cheisio bod yn barod i
gyfarfod â Duw. Y mae yn ddiamheuol ei bod hi
wedi dianc ar bob gofidiau daearol, ac wedi cyr-
haedd adref. Ona bawn inau felly! Arglwydd!
gwna fi yn barod erbyn dy ddyfodiad; ac yna
"Os cyfyd tymhestloedd o seithblyg daranmu,
I yagwyd y ddaear oddiar ei phegynau ;
Caf lechu yn dawel tu hwnt i bob dychryn,
Can's Iesu fy lloches fydd barod i'm derbyn."
Sabboth, y 23ain,-9 o'r gloch yr hwyr. Wyf
newydd ddychwelyd o wrando geiriau y bywyd,
ond y maent eisioes wedi dianc arnaf-"yr adar a
ddaethant ac a'u cipiasant."
"O na allwn rodio er ei glod,
Ac iddo bellach fyw,
A phob anadliad fyn'd i maes
I ganmol gras fy Nuw."
Tach. 2. Teimlaf fel pe byddai cael cymdeithas
& Duw yn annichonadwy. Yr wyf wedi crwydro a
myned yn mhell oddi wrthyt. O! Iesu, Fugail