Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/56

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

34
COFIANT
ddwyn ymaith. Ti a ddywedaist wrthyf, "dewis-
wch iwch' heddyw pwy a wasanaethwch;" minau
a atebaf, "y Duw hwn yw ein Duw ni, byth ac yn
dragywydd, efe a'n tywys ni hyd angeu."
Yr
Ebrill 25. Y mae Duw yn ei drugaredd wedi
gweled yn dda roddi i mi fywyd ac iechyd i weled
un dydd genedigaeth drachefn.
0! am gysegru
fy hun o'r newydd iddo ef. wyf yn ofni i mi
yn fynych dori fy adduned er y diweddaf; ond y
mae Duw yn drugarog wedi fy arbed i weled un yn
rhagor. Y mae y dyddiau hyn fel uchelfeydd yn
nhaith bywyd, lle y dylem aros ac edrych yn ol ar
y llwybr a gerddasom, a gofyn cyfarwyddyd Duw
am yr ychydig amser sydd yn ngweddill. Ar-
glwydd! ti a wyddost mor anffrwythlon y treuliais
yr amser a aeth heibio. Dysg fi i brynu pob mynyd
o'm hamser i'th ogoneddu di. Na d i mi feddwl
am ddim ond pa fodd i wasanaethu fy Nghreawdwr,
a llesâu fy nghyd-greaduriaid yn ol mesur y talentau
a roddaist i mi. Bydded i mi ymdebygoli i'r
siampl berffaith a roddodd Efe, yr hwn a aeth
oddiamgylch gan wneuthur daioni, a bendithio hyd
yn nod ei elynion. Na fid i mi gymeryd neb yn
gynllun ond Efe; a dyro i mi gymorth i roddi fy
hun iddo, enaid a chorff, i ymostwng i'w arweiniad
dwyfol, gan wybod y bydd i bob peth gyd-weithio
er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw. Yr wyf yn
dychrynu wrth feddwl y fath gyfrif manwl a raid
ei roddi ger bron brawdle Crist, a beth os ceir fi ar
law aswy y Barnwr yn y diwedd? Ond yr wyf
yn pwyso ar yr addewid raslawn "deuwch ataf fi
bawb a'r sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a
esmwythaf arnoch;"-caf esmwythad tragywyddol
gydag ef. Amen.
Nid yw yn debygol iddi gadw i fyny yr arferiad
o gofnodi ei theimladau mor gyson a manwl ar ol
y cyfnod uchod; ond ceir mewn llawer o lyfrau, ac
ar ddarnau o bapyr, sylwadau byrion ar amryw