Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/60

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

38
COFIANT
o ddiolchgarwch i Dduw yn fy llenwi & llawenydd
a hyfrydwch, ond y foment nesaf y mae yn diflanu,
ac fe ddaw ofnuu ac amheuon megys cymylau
tywyll a du, i daflu eu cysgod trymaidd o'm ham-
gylch, nes wyf yn teimlo fy mod"
"Yn nyfnder mawr anobaith du;"
ac yn barod i ofyn,-
"A oes dyn ar wyneb daear,
Mor annedwydd a myfi?
Pwy y'ruhlith holl deulu galar,
Gydymdeimla å fy nghri?
Cwyno 'r ydwyf,
Gan drueni oulon ddrwg."
Po fwyaf graddol y mae ein hadfeiliad crefyddol,
mwyaf peryglus ydyw; oblegyd nad ydyw mor
amlwg i ni. Nid ydym yn canfod y perygl yr
ydym ynddo, hyd nes y byddom ar y dibyn megys,
ac oddieithr i ras Duw ein rhagflaenu, ni a syrth-
iwn yn bendramwnwgl drosto. Mor angenrheidiol,
gan hyny, ydyw y cyfarwyddyd, "Gwyliwch a
gweddiwch, fel nad eloch i brofedigaeth."
Nid oes dim yn anfarwol yma ar y ddaear ond
yr enaid, am hyny, nid oes dim mewn gwerth i'w
gydmaru iddo, ac eto, y peth diweddaf ydyw ag y
cymerwn ofal am dano. O lygredigaeth ein natur!
sydd mor ofalus a diwyd yn nghylch yr adeilad,
ond sydd yn ddiofal am ddyogelwch y preswylydd
-sydd yn cymeryd gofal mawr yn nghylch y
corff, ond yn ddisylw o achos yr enaid anfarwol a
thragywyddol.
"Ni ddaethoch eto i'r wlad am yr hon y dywedodd
yr Arglwydd.". Y mae y geiriau hyn yn ddëongl-
iad ar brofiad y Cristion, yn wyneb cael ei guro
gan dònau geirwon gofid. Y mae plentyn Duw yn