Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/61

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
39
barod i ymofyn a'i Dad, "Paham y mae fel hyn
arnaf," ac yn fynych yn amheus pa un a yw yn
blentyn; ond y mae hwn yn ateb digonol, "Ni
ddaethoch eto i'r orphwysfa"-yr ydych eto ar faes
y gwaed, yn brwydro & gelynion, ond "y mae gor-
phwysfa eto yn ol;" "dros brydnawn yr erys wyl-
ofain, ac erbyn y boreu y daw gorfoledd." O!
ddedwydd foreu, pan welir y Cristion heb gorff y
farwolaeth, yn rhydd o afael pob gelyn fu yn ei
flino yma ar y llawr.

"Ni threfnwyd oesoedd maith,
I neb i gario'r groes."

Byddwn ffyddlawn hyd angeu, ac ni gawn dragy-
wyddoldeb i orphwys gyda Duw a'r Oen.

Mor fynych y bydd y pethau sydd yn hollol
gyfreithlawn ynddynt eu hunain yn tynu ein serch-
iadau oddiar wrthddrychau nefol. Yr ydym yn
cyfarfod a chyfaill ag y mae ein meddyliau oll yn
ymglymedig wrtho. Fel hyn, y mae yn anlawdd
iawn gosod ein serch ar y pethau sydd uchod; ac
y mae cystuddiau yn llwyr angenrheidiol er mwyn
diddyfnu ein calonau oddiwrth y pethau sydd yn
dwyn ymaith y meddwl oddiwrth Dduw, a'r pethau
a berthyn i'n heddwch tragywyddol.

O mor farwol, ac eto mor anweledig, ydyw y
clefyd dirgelaidd hwnw, y darfodedigaeth-mor
dwyllodrus ydyw, hyd yn nod yn ei nerth mwyaf.
Y mae y rhai sydd tano yn gweniéithio iddynt eu
hunain eu bod yn gwella, ac y bydd i ychydig o
wythnosau eu hadferyd i iechyd eilwaith. Felly y
mae hefyd yn ymadawiad yr enaid & Duw; ya ofer
y rhybuddir ni gan ein cyfeillion o'n perygl, mewn
hunan-hyder yr ydym yn diolch iddynt am eu
gofal, ac ar yr un pryd yn sicrhau iddynt eu bod