Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/77

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
55
sicrhau y byddai i bob peth droi allan yn dda yn y diwedd,-
ychwanegai hefyd-"y mae yn rhyw beth tuag at eich cysuro,
i chwi wybod fod genych gyfeillion sydd yn gweddio drosooh
eich dau." Yr oedd bob amser yn siriol, pa faint bynag
fyddai ei phoenau. Nid amheuodd neb o honom erioed nad
oedd ei chrefydd yn dda a dysglaer. Yr wyf fi yn credu
na bydd i neb, oddieithr ohwi a'r teulu, deimlo y golled ar ei
hol yn fwy na myfi. Mewn gwirionedd, ni chyfarfyddais à hi
un amser, na chefais ryw addysg oddiwrth ei hagwedd a'i
hymddyddanion; ac yn gyffredin, ar ol y cyfarchiad arferol,
gofynai, Well, what good have you been doing.' 'Wel, pa
ddaioni ydych wedi bod yn ei wneuthur?'
<
"Yr eiddocb, &c.,
"M. ELLIS."
PEN. III.
EI SYNIAD AM ADDYSG Y RHYW FENYWAIDD.
OND dechreu, canol, a diwedd, ei huchelgais hi,
oedd bod yn offerynol i ddysgu a llesâu y rhyw
fenywaidd, y rhai a farnai oedd yn cael cam mawr
oddiar law y wlad. Byddai yn haws ei hargyhoeddi
fod goleuni y lleuad yn rhagori ar eiddo yr haul,
na pheri iddi gredu fod cyneddfau y rhyw fenyw-
aidd yn wanach mewn un gradd na'r eiddo y
rhyw arall. Priodolai y gwahaniaeth sydd mewn
rhai amgylchiadau i'w ganfod rhyngddynt i'r dull
maswaidd y bydd y rhyw fenywaidd yn cael eu
haddysgu. Credai bob amser, pe caent eu harfer
o'r dechreu i ymdrechu amgyffred pethau dyrys a
dyfnion, y cryfhai eu meddyliau yn gyfatebol, ac y
byddent yn ogyfuwch a'r rhyw arall yn mhob peth,
ac mewn rhai pethau yn rhagori. Dywedai ei bod
yn rhy hysbys o'r dull arwynebol y bydd merched
yn gyffredin yn cael eu dysgu mewn Boarding
Schools; iddi hi gael ei hyfforddi yn un o'r rhai
goreu o honynt, ac mai trwy iddi benderfynu
esgeuluso amryw o'r accomplishments sydd yn