Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/91

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
69
honom y fath esmwythdra oedd byny i'w meddwl.
Byddai yn iechyd i galon llawer athraw diofal a
diymdrech i weled y gofal a'r pryder fyddai yn
ddangos yn nghylch ei dosparth. Yn yr yspaid
hwn cymerodd ddosparth o ferched ieuainc i'w
hyfforddi mewn Daearyddiaeth Ysgrythyrol, am
awr o flaen y cyfarfod gweddi bob nos Lun. Y
tro diweddaf y bu gydag ef aeth allan mewn gwen-
did mawr, braidd yn groes i ddymuniad ei pherth-
ynasau. Hwn oedd y tro diweddaf y bu allan o'r
tý, ond ni chollodd ei dyddordeb yn y dosparth am
amser wedi hyn; dymunodd ar yr ysgrifenydd eu
cyfarfod am ychydig droion hyd oni chaniateid iddi
hi fyned ei hunan. Yr oedd yr archwaeth a ddang-
osal at waith yr Arglwydd, a'r awydd cryf am fod
yn ddefnyddiol, yn rhwym o ddisgyn fel marwor
tanllyd am ben y meddwl swrth a ddygwyddai fod
yn ei chymdeithas. Pan yn agos iawn i ben ei
thaith danfonodd genadwri gydag un o'r diaconiaid
at bobl ieuainc y gymdeithas eglwysig, i ddymuno
arnynt ymdrechu bod yn weithwyr yn nhý Ďduw;
ei bod yn ofni fod llawer o honynt ddim yn amgen
na segurwyr yn y winllan. Dywedwch wrthynt,
meddai, "na bydd iddynt edifarhau ar wely angau
am fod yn llafurus gydag achos Iesu Grist."
PEN. VI.
EI PHROFIAD CREFYDDOL.
"Llawn euogrwydd, llawn o ddychryn,
Llawn o boen yw'm henaid gwan;
Anaghrediniaeth sydd yn haeru,
Byth na ddof oddiyma i'r lan;
Balm o Gilead, 'n unig all wellhau fy nghlwyf."-W. W.