Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/105

Gwirwyd y dudalen hon

hwnw yn dra anghysbell iddo fyned i'w deithiau Sabbothol. Ac nid oedd ganddo, meddai ef ei hun, amser cyfreithlawn i fod oddicartref ond o 11 o'r gloch ddydd Sadwrn hyd 8 o'r gloch bore Llun, ac mor gydwybodol ydoedd i gyflawni ei waith yn iawn, fel mai anaml iawn y methodd, haf na gauaf, ddechreu yr ysgol yr awr foreuol hono, faint bynag fyddai pellder ei daith y Sabboth blaenorol. Fel Richard Jones, Trawsfynydd, yr adnabyddid ef gan lawer hyd ddiwedd ei oes, gan iddo fod yno yn lled hir, ac oddiyno yr aeth ei enw yn hysbys trwy y wlad fel efengylwr. Yno y priododd, ac yr ymsefydlodd, fel y dywedir, yn y byd. Yn Nghymdeithasfa y Bala, 1825, ordeiniwyd ef i holl waith y weinidogaeth, ac yn. niwedd yr un flwyddyn anfonwyd ef tros y Gogledd i wasanaethu yr achos yn Llundain, a bu yno 11 o Sabbothau. Ar ol dychwelyd o Lundain y pryd hwn, ni cheisiodd gadw ysgol mwyach. Ymroddais," meddai, "i gymeryd y byd a gawn wrth wasanaethu yr eglwysi yn y sir, ynghyd âg ambell daith weithiau i siroedd eraill."

Calanmai, 1829, y mae yn gadael Trawsfynydd, wedi bod yn y lle hwnw yn fawr ei barch am 15 mlynedd, ac ar gais brodyr a chyfeillion yn y Bala y mae yn symud yno, efe a'i deulu, i gyfaneddu hyd ddiwedd ei oes. Gwasanaethu yr eglwysi a wna bellach yn gyffredinol trwy y Cyfundeb, weithiau yn Llundain, weithiau yn Liverpool a Manchester, bryd. arall ar daith i'r Deheudir ac i siroedd y Gogledd, ond gan mwyaf yn Sir Feirionydd, gan gymeryd y byd a gai. Golyga yr ymadrodd hwn o'i eiddo fod yn rhaid i weinidog yr efengyl ymhlith y Methodistiaid, yn ei amser ef, ymfoddloni ar ymborth a dillad a dim ond hyny, gan nad oedd yr eglwysi eto yn credu fod y sawl a bregethai yr efengyl i fyw wrth yr efengyl. Llanwodd Richard Jones le mawr yn ei ddydd yn y Cyfundeb, ac yn neillduol yn Meirionydd, ei sir enedigol. Ystyrid ef yn un o'r colofnau gyda holl symudiadau yr achos