Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/106

Gwirwyd y dudalen hon

yn y sir. Yr adeg y pwyswyd arno gan ei frodyr i fyned i fyw i'r Bala, nid oedd odid neb o weinidogion y sir yn gymaint ei ddylanwad ag ef. Yr oedd hen bregethwyr y Bala wedi eu symud oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, a nifer y rhai cyfrifol wedi teneuo yn fawr. John Roberts, Llangwm, oedd yr arweinydd a'r pen—rheolwr y blynyddau hyn, ac yr oedd yntau. yn hen ac o fewn pum' mlynedd i ddiwedd ei oes pan symudodd Richard Jones i'r Bala. Yr oedd John Roberts yn helaethach ei wybodaeth, ac yn rhwyddach ei ymadrodd na phregethwyr ei oes yn gyffredin, yn llawn yni a bywiogrwydd, a chanddo allu arbenig i gario ymlaen amgylchiadau allanol yr achos. Efe oedd Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol am y pum' mlynedd ar hugain y bu yn trigianu yn y sir. Yr oedd wedi ei eni i deyrnasu, ac ystyrid gan lawer ei fod yn teyrnasu ac yn llywodraethu mwy nag a ddylasai. Prawf o hyn ydyw. yr hanesyn canlynol:—Yr oedd Cyfarfod Misol yn cael ei gynal yn Nolwyddelen rywbryd, ac wrth holi am hanes yr achos yn y lle, gofynai John Roberts i'r hen bregethwr adnabyddus, John Williams (Shon William), Dolyddelen, "A ydyw y bobl ieuainc yn Nolyddelen yma yn helpu tipyn arnoch chwi i gario yr achos ymlaen, John Williams?" "Nac ydynt," oedd yr ateb chwyrn, "nac ydynt," 'does dim eisieu. iddynt wneyd; yr wyf fi yn gwneyd y cwbl fy hun, fel yr ydych. chwithau yn gwneyd y cwbl eich hun yn y Cyfarfod Misol yma!"

Cyn belled ag y gellir casglu oddiwrth amgylchiadau cydgyfarfyddol, Richard Jones, y Bala, a ddaeth yn Ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir am y chwe' blynedd rhwng marwolaeth John Roberts, Llangwm, yn 1834, a'r amser y rhanwyd y Sir, yn ddau Gyfarfod Misol, yn 1840. Nid oes dim cofnodion ar gael i brofi y ffaith; a methwyd a chael tystiolaeth ar air i'w sicrhau, ond mae ei enw ef i'w weled yn fynych lle y dysgwylid cael enw Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol. "Digon tebyg mai y fo oedd yr Ysgrifenydd" meddai y blaenor haeddbarch a'r