Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/117

Gwirwyd y dudalen hon

Berwyn i ymladd y frwydr allan. Hyn hefyd a ddaeth i glywedigaeth yr hen ŵr, ac a'u rhagflaenodd i'r llanerch benodedig, gyda'r amcan o weddio drostynt ar faes yr ymladdfa. Cyn hir, dyma'r dynion yn dyfod yn llu, a phan y gwelsant ef diangasant ymaith fel pe buasai haid o ellyllon yn barod i'w cymeryd yn garcharorion. Yr oedd mor adnabyddus yn yr ardaloedd hyn fel dyn sanctaidd Duw, ni byddai raid iddo ond ymddangos i gynulliad o oferwyr, i beri iddynt ymwasgaru yn ebrwydd.

Ymddengys mai yn Mhont yr Eryd, yn Nwyrain Meirionydd, y dechreuodd Humphrey Edwards wasanaethu swydd blaenor, er na chafodd ei ddewis yn rheolaidd i'r swydd, na'r pryd hwn nac wedi hyny. Yr oedd hyn yn nechreu y ganrif bresenol. A lle bynag y symudai, ac y syrthiai coelbren yr hen ysgolfeistr i aros dros ysbaid o amser, gweithredai fel blaenor eglwysig, heb na dewisiad na chaniatad y Cyfarfod Misol, na chynrychiolwyr i gymeryd llais yr eglwys, nac unrhyw reol na deddf yn y byd.

Yn rhinwedd ei swydd fel blaenor, neu ynte fel cymwynaswr i'r achos, digwyddodd iddo un tro fod yn arweinydd i'r hen efengylwr clodus, Mr. Evans, o'r New Inn. Yr oedd wedi dyfod o Bont yr Eryd i Gorwen i ymofyn y gŵr da i ddyfod i bregethu i'r lle blaenaf, ac fel yr oeddynt ar y ffordd yn myned i'r cyhoeddiad daeth syniadau chwithig, yn ol yr arfer, i feddwl Mr. Evans—yr oedd yn rhaid iddo gael troi yn ei ol, ni ddeuai ddim i'w gyhoeddiad, dyweded ei arweinydd y peth a ddywedai. Nid oedd yr efengylwr yn rhoddi un rheswm. boddhaol dros yr ymddygiad rhyfedd hwn o'i eiddo, eithr datganai ei benderfyniad yn syml na ddeuai ddim i bregethu i Bont yr Eryd. Wedi hir ddadleu gofynodd Humphrey Edwards iddo, Pa beth oedd y tân dieithr yr oedd meibion Aaron yn ei offrymu gerbron yr Arglwydd? Yna dechreuodd yr hen weinidog draethu am y tân dieithr, a dechreuodd deithio