Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/119

Gwirwyd y dudalen hon

John Morris, o'r Bala. Yr oedd yn bresenol, ac yn cymeryd rhan gyhoeddus yn y Jiwbili yn Nghorwen, y Parchn. John Hughes, Llangollen; Robert Evans, Talybont; J. Parry, D.D., y Bala; Robert Owen, Nefyn; John Thomas, y Bala; John Hughes, Pont Rhobert."

Bu Humphrey Edwards, yr hen ysgolfeistr gweithgar, farw Mai 23, 1854, a chludwyd ef i'w orweddfan i fynwent Llantysilio. Pregethwyd pregeth angladdol iddo yn Llandynan, gan y Parch. Richard Edwards, Llanddyn Hall, Llangollen. Cerddodd amryw o ddisgynyddion y gwr da yn ol ei draed. Bu ei fab, J. Edwards, yn flaenor eglwysig yn Llandynan. Wyr iddo ydyw John Jones, Caegwyn, Bethesda, Blaenau Ffestiniog. Or-wyr iddo ydyw y pregethwr ieuanc hoffus ac addawol iawn, Mr. John David Jones, yr hwn sydd yn bresenol wedi myned am dro er lles ei iechyd i Awstralia.