Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

oedd John Jones i Lewis Jones, Penyparc; yr oedd Lewis Jones yn un o'r rhai cyntaf a agorodd ei ddrws i dderbyn pregethu yr efengyl yn Bryncrug. Ganwyd John, y mab, yn Berthlwyd Fach, yn y flwyddyn 1769. Yr oedd felly yn ugain oed pan y planwyd eglwysi Ymneillduol cyntaf y broydd hyn. Yr hen bregethwr, Lewis Morris, yn ysgrifenu oddeutu 1840, a ddywed," Mr. Lewis Jones, o Benyparc, yn more pregethu yn yr ardal, a agorodd ei ddrws i arch Duw; ac y mae ei fab, Mr. John Jones, yr un modd yn llafurus a ffyddlawn hyd heddyw, fel gweithiwr medrus gydag amrywiol ranau o achos. Iesu Grist."

Yr oedd Lewis Jones mewn amgylchiadau cysurus, ac felly cafodd John, ei unig fab, well addysg na llawer o'i gyfoedion. Anfonwyd ef i'r ysgol i'r Amwythig. Pobl o amgylchiadau cefnog yn y byd yn unig a anfonent eu plant oddicartref i'r ysgol yr oes hono, ac ni byddai eu hanfoniad ond fel ymweliadau angylion, yn few and far between. A'r rhai a anfonid oddicartref am addysg, o wlad Meirion, ddiwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu hon, i'r Amwythig yr anfonid hwy. Yn yr Amwythig yr oedd ysgol uwchraddol y blynyddoedd hyny. Ymha le yno, hwyrach y gall rhywun ateb.

Nid oedd yn John Jones gymhwysder i fod yn amaethwr. Cydoeswr a chymydog iddo a adroddai y chwedl ganlynol am dano:—Yr oedd yn aredig ar y fferm un tro gydag aradr bren, o'r hen ffasiwn, a rhyw bwt o swch ar ei phen, a bachgen o'i flaen yn gyru y ceffylau. "Ho, fachgen," meddai, "dal atat, nid oes genyf yr un gŵys." Ar ol myned i'r pen dywedodd y bachgen wrtho, "Meistr, meistr, nid oes yr un swch ar yr aradr!" Gan nad oedd gymhwysder ynddo at ffarmio, ymgymerodd â chadw ysgol ddyddiol. Ac yn yr holl bethau hyn gwelir yn amlwg law Rhagluniaeth. Yn ol tystiolaeth John Jones ei hun, aeth y Parch. Owen Jones, y Gelli, ato i'r ysgol pan yr