Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/125

Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn saith neu wyth oed, a bu gydag ef yn yr ysgol o dair i bedair blynedd.

Yr oedd Mr. O. Jones yn enedigol o Crynllwyn, ffermdy o'r tu arall i afon Dysyni o Benyparc. Yr oedd gydag ef yn yr ysgol felly yn ystod erledigaeth fawr y flwyddyn 1795; erledigaeth na welodd y wlad yn y parth hwn o Feirionydd mo'i thostach er dechreuad Methodistiaeth; erledigaeth a gyfodwyd trwy i brif foneddwr y wlad gymeryd y gyfraith yn ei law i ddirwyo y pregethwyr a'r gwrandawyr, a'r tai y pregethid ynddynt. (nid oedd eto yr un capel wedi ei adeiladu yn yr amgylchoedd). Oherwydd ffyrnigrwydd yr erledigaeth hon gwasgarwyd dros ryw dymor bron yr oll o'r eglwysi bychain oeddynt newydd gael eu ffurfio yn y cymydogaethau hyn, trwy gylch o wlad o ugain milldir o amgylchedd. Yn ystod y flwyddyn 1795 hefyd y penderfynodd Cymdeithasfa Methodistiaid Gogledd Cymru osod y pregethwyr, a'r tai lle y pregethid yr efengyl ynddynt, o dan amddiffyniad y gyfraith, trwy drwy- ddedu y naill a'r llall yn gyfreithiol. Nid rhyfedd i hen grefyddwyr y parthau yma ddyfod yn weithwyr da yn nheyrnas yr Iesu; yr oeddynt wedi eu tynu, ar y cychwyn, trwy ffwrneisiau poethion erledigaeth.

Heblaw ei fod yn adnabyddus yn ei oes fel ysgolfeistr o fri, yr oedd John Jones yn enwog mewn cylchoedd eraill. Yn ol dywediad Lewis Morris, yr oedd yn "weithiwr medrus. gydag amrywiol ranau o achos Iesu Grist." Y tebyg ydyw mai efe oedd un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf oll, a osodwyd yn y swydd o flaenor, pan y daeth Mr. Charles o'r Bala trwy y wlad i ddangos yr angenrheidrwydd am osod blaenoriaid ar yr eglwysi. Bu ef yn cadw lle diacon a gweinidog yn ei eglwys gartref, yn Bryncrug, am yn agos i 60 mlynedd. Pan y byddai y daith, neu y teithiau bychain cylchynol, heb yr un pregethwr y Sabboth, cymerai ef benod i'w darllen, a rhoddai gynghorion buddiol i'r gwrandawyr oddiwrthi. "Yr