iaeth a'i enw ef wrthynt. Cyfansoddodd rai llyfrau, ac yn arbenig y Silliadur, llyfr elfenol at wasanaeth yr Ysgol Sul, a bu defnyddio mawr arno yn ystod ei oes ac ar ol ei ddydd, fel y defnyddio mawr fu ar lyfrau y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yn yr ysgolion dyddiol cyn dyddiau Mr. Charles. Yr oedd yn un o'r trefnwyr a'r siaradwyr yn y Cymdeithasfaoedd, a rhoddai y Corff bwys mawr ar ei farn.
Ymysg papyrau anghyhoeddedig Lewis William, Llanfachreth, ceir cryn nifer o lythyrau John Jones, Penyparc. Mae y rhai hyn oll wedi eu hysgrifenu mewn llawysgrifen ragorol, teilwng o lawysgrifen y goreuon o ysgolfeistriaid yr oes hon. Cynwys y llythyrau gan mwyaf ydyw materion yn dal cysylltiad â'r ysgolion cylchynol, ac achos crefydd yn y Dosbarth. Byddai yr hen frodyr ar ol dydd Mr. Charles yn ofalus iawn i gario pob peth crefydd, a phob peth yr Ysgol Rad Gylchynol, yn ol cynllun ac esiampl sylfaenydd enwog yr ysgolion dyddiol a'r Ysgolion Sabbothol. Ac arbenigrwydd ar eu gweithrediadau yn ddyddiol a Sabbothol ydoedd, "Crefydd yn uchaf." Wele engraifft neu ddwy i ddangos hyn. Mewn. cyfarfod athrawon y Dosbarth ceir y sylw canlynol:—"Bwriwyd golwg ar ysgol y cylch. Ystyriwyd fod ei hamser ar ben yn Llanegryn, Gorphenaf 4ydd, a'i bod i ddechreu un ai yn Llanerchgoediog ai Bryncrug,—hyn i gael ei benderfynu rhwng John Jones a Harri Jones y Sul nesaf." Harri Jones, Nantymynach, oedd y diweddaf a enwyd, a chyd—flaenor yn yr un eglwys a John Jones. Gwaith yn cael ei ymddiried i ddau wr o ddylanwad, na chawsid ei wneuthur yn awr heb lais cynrychiolydd o bob Ysgol Sul, serch bod ddau neu bedwar mis heb ddyfod i benderfyniad ynghylch y mater.
Ceir y dyfyniad canlynol yn un o'r llythyrau oddiwrth John Jones, Penyparc, ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion, at Gyfarfod Chwech—wythnosol Llwyngwril, a gynhelid Ebrill, 1819:—
Yr ydys yn gobeithio y bydd i'r Cyfarfod gofio am y chwaer