mlynedd y gwnaeth Moffat hyn, ar ol i Lewis William ddefnyddio y cynllun gyda phlant Llanegryn.
Ond prif gamp Lewis William oedd ei ddyfais i allu addysgu y dosbarth uchaf ac yntau heb fedru darllen ei hun. I ddyfod dros ben yr anhawsder, llwyddodd ryw gymaint trwy fyned at chwaer grefyddol, Betty Ifan—yr hon ryw ffordd a fedrai ddarllen yn lled dda—i gael gwers ei hun yn y gwersi oeddynt i ddyfod dan sylw yn yr Ysgol y tro nesaf. Dyfais arall a ddyfeisiodd ydoedd cymeryd nifer o ysgolheigion o blith y darllenwyr goreu o Ysgol Waddoledig Llanegryn, yr hon oedd y pryd hwnw mewn cryn fri, a rhoddai hwynt i ymryson darllen am wobr fechan. Testyn y gystadleuaeth fyddai y wers oedd i ddyfod dan sylw yn ei ysgol ef ei hun y tro canlynol. Efe ei hun fyddai y beirniad! Craffai yn fanwl arnynt yn seinio pob llythyren, ac yn y modd hwn, megys yn wyrthiol, llwyddodd i gyraedd gradd o wybodaeth. fel ag i benderfynu pwy fyddai piau y wobr. Fel hyn aeth rhagddo, gan gelu ei anwybodaeth ei hun, i ddyfod yn feistr ar ei waith gyda'r plant.
Yr oedd eisiau dechreu a diweddu y cyfarfod trwy weddi. Y ddyfais a arferai ar y cyntaf i gadw ei arabiaid ieuainc anwaraidd yn llonydd a distaw, iddo allu gweddio oedd, gwneyd iddynt fyned trwy y gwahanol ymarferiadau milwrol, neu fel y galwai ef y gwaith, "chwareu soldiers bach," fel y dysgasai ef ei hun gyda'r Militia. Pan y deuai at y "Stand at ease," a'r "Attention," safent oll yn llonydd, ac wele yn y fan weddi fér drostynt i'r nef. Ar ddiwedd y cyfarfod ychwanegid y "Quick march"—allan.
Yn y flwyddyn olaf o'r ganrif ddiweddaf mae y dyn ieuanc— syml hwn yn gweini mewn ffarm yn Llanegryn, ac yn addysgu plant y plentref fel hyn i ddarllen Cymraeg. Yn y flwyddyn hono y mae Cyfarfod Misol yn Abergynolwyn, ardal gyfagos, ac y mae Mr. Charles ar ei ffordd yno yn lletŷa yn