Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/138

Gwirwyd y dudalen hon

byr fu arholiad Lewis William—anturiodd ef i'r cynhauaf gyda'i gryman heb aros ond tri mis i'w barotoi rywsut, ac er hyny, llafuriodd yn helaethach na'i frodyr oll; ac y mae eglwysi y wlad yn awr yn medi o ffrwyth ei lafur. Bu yn symudol o ardal i ardal yn cadw yr Ysgol Rad gylchynol, am bum mlynedd ar hugain. A gwnaeth wasanaeth mawr, fel y ceir gweled eto, gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu, mewn. llawer o wahanol gylchoedd.

Ei eiriau ef ei hun a ddangosant ei gysylltiad cyntaf å Llanfachreth. "Wedi i Ragluniaeth fy nhywys," meddai, "i lawer o fanau gyda'r ysgol ddyddiol a Sabbothol, hi am tywysodd trwy anfoniad Mr. Charles i Lanfachreth. o gylch y flwyddyn 1800. Nis gallaf ddweyd gynifer o weithiau y bum yn Llanfachreth, o anfoniad Mr. Charles, weithiau am fis, pryd arall am ddau, a rhai gweithiau am chwarter blwyddyn. Yr achos o fyrdra yr amser oedd, y mawr alw fyddai am yr ysgol ddyddiol i fanau eraill, er mwyn sefydlu a chynorthwyo yr Ysgol Sabbothol. Ond wedi marw Mr. Charles, a thra y bum yn cadw yr ysgol, yr oeddwn yn myned ar alwad yr ardaloedd, ac iddynt hwy roi cyflog i mi, neu ddwyn fy nhraul, ac ychydig fyddai hyny mewn llawer o fanau y bum ynddynt." Ymsefydlodd yn arhosol yn Llanfachreth yn y flwyddyn 1824. Dyma y ffordd, trwy gyfrwng Rhagluniaeth, y cysylltwyd ei enw â Llanfachreth.

Efe oedd athraw Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl, yn yr ysgol ddyddiol, ar adeg ei thaith fyth—gofiadwy i'r Bala, i brynu Beibl gan Mr. Charles, amgylchiad a arweiniodd yn uniongyrchol i sefydliad y Feibl Gymdeithas. Yn Abergynolwyn y cadwai yr ysgol, a merch fechan Ty'nddol yn un o'i ysgolheigion. Yr oedd felly yn y fantais oreu i gael holl hanes y daith hono o enau yr eneth ei hun, yn gystal a chan Mr. Charles wedi hyny. Cymerodd hyn le ymhen y flwyddyn wedi iddo ddechreu ar ei waith fel ysgolfeistr, sef yn y fl. 1800.