Gymraeg. Yr oedd y ffordd wedi ei chau i fyny, i raddau pell, yn erbyn y gobaith i'r Efengyl gyraedd meddyliau a chalonau y bobl, oherwydd yr anwybodaeth a'r tywyllwch oedd yn teyrnasu dros yr holl wlad. Paham, gellid gofyn, na buasai Mr. Charles yn sefydlu Ysgolion Sabbothol yn gyntaf, yna yr ysgolion dyddiol wedi hyny? Yr ateb ydyw, nad oedd fawr neb i'w cael o blith y bobl yn un man a fedrai air ar lyfr, ac felly anmhosibl oedd cael athrawon i addysgu yn yr Ysgolion Sabbothol. Trwy ddechreu fel y gwnaed, fe ddechreuwyd yn y dechreu, gan ddarparu yn gyntaf oll athrawon i addysgu y rhai na fedrent ddarllen.
Mae yn wybyddus i Mr. Charles, yn union wedi iddo ymuno a'r Methodistiaid, cyn diwedd y flwyddyn 1785, fyned ar daith i bregethu trwy Ogledd Cymru, yn ol y drefn oedd yn arferedig yn y Corff o'r dechreuad, ac iddo yn ystod y daith hono weled cyflwr gresynus y wlad. "Nid oedd," meddai ef ei hun, "ond prin un o ugain, mewn amryw fanau, yn medru darllen yr Ysgrythyrau; ac mewn ambell barth, yn ol ymofyniad penodol, anhawdd oedd cael cymaint ag un wedi ei ddysgu i ddarllen." (Cofiant gan y Parch. T. Jones, tu dal. 168.) Gweled hyn a gynhyrfodd ei ysbryd, ac a barodd iddo deimlo hyd ddyfnder ei enaid, o herwydd cyflwr gresynus ei gydgenedl. Pa beth oedd i'w wneyd er adferu cenedl o bobl o'r fath ddyfnder o dywyllwch? Dyma fater digon mawr i Gymdeithasfa neu Senedd y wlad i ymaflyd ynddo. Ond tra nad oedd y naill na'r llall yn meddwl nac yn amcanu at y fath waith dyngarol, y mae Mr. Charles yn mentro yr anturiaeth ei hunan.
Hysbys ydyw i'r Parch. Griffith Jones, Llanddowror, lafurio yn llwyddianus i roddi addysg i werin Cymru yn ei amser ef. Teilynga enw y gŵr hwn fod yn fwy adnabyddus, oblegid saif ef ochr yn ochr â diwygwyr ardderchog ei wlad. Mae yn cael ei alw yn "Seren fore y Diwygiad," am ei fod y cyntaf o'r diwygwyr a'i oleuni yn goleuo ar doriad y wawr, ychydig cyn