Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/141

Gwirwyd y dudalen hon

mawr ar ei feddwl, ac i hyny yr oedd yn cysegru ei fywyd— ïe, rhodd yr Arglwydd i Wynedd, ac i Gymru oedd Mr. Charles.'"

Ni bu yr hanes hwn yn argraffedig o'r blaen. Gwelir ynddo fanylwch a ffyddlondeb digyffelyb Lewis William, a chymeriad gloew Mr. Charles yn disgleirio hyd y diwedd. Ar ei ffordd adref o'r Abermaw y tro diweddaf y bu yno, yn ol pob tebyg, yr oedd Mr. Charles y pryd hwn. Dywedir yn y Cofiant gan gan y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, ddarfod iddo fyned adref trwy Fachynlleth, lle y pregethodd ei bregethau olaf, Sabboth, Medi 4ydd, 1814].

Aeth i Lanfachreth—y lle y mae ei enw byth wedi ei gysylltu âg ef—i gadw Ysgol Gylchynol am y tro cyntaf, yn ol ei dystiolaeth ei hun, yn 1800. Eithr nid aeth yno i fyw am chwarter canrif wedi hyn. Cenhadwr symudol fu yr holl amser yma, yn byw yn nhai estroniaid yn y gwahanol gymydogaethau. Cadw ysgol ddyddiol, i addysgu plant tlodion Sir Feirionydd i ddysgu darllen Cymraeg, ac i'w hyfforddi yn elfenau cyntaf crefydd, oedd y gwaith a hoffai o ddyfnder ei galon. Cylch ei lafur gyda'r gorchwyl hwn oedd o Aberdyfi ar lan y môr, ar un llaw, i fyny hyd Buarthyrê, ffermdy wrth odreu un o'r bryniau pell, oddeutu wyth milldir i'r gogledd uwchlaw Dolgellau, ar y llaw arall; ac o'r Bontddu i Lanymowddwy, a mesur y wlad ar ei thraws, gan gymeryd tref enwog Dolgellau i'r cylch. Efe a fu ben—ysgolfeistr yr holl gylch hwn am y chwarter cyntaf o'r ganrif bresenol. Bu yn cyflawni ei swydd ymhob lle, ardal, cwm, a thref, o fewn y cylch hwn laweroedd o weithiau, fel y byddai y galw am dano. Ac er tywylled yr ymddangosai ei achos fel ysgolfeistr ar y cychwyn, trwy ei ddyfalbarhad dihafal, daeth mewn amser i gael ei barchu gan y bobl fel tywysog.

Rhaid cofio mai bychan iawn oedd ei gyrhaeddiadau addysgawl. Addysgu plant a phobl i ddarllen Cymraeg fu ei