Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/143

Gwirwyd y dudalen hon

gael i gadw ysgol ddyddiol; ac mor gywir ac uniawn oedd ei fywyd yntau oll, fel yr ymgyrhaeddai yn ei holl orchwylion i wneuthur ewyllys yr Arglwydd. Bu y brodyr yn Salem, Dolgellau, un tro ar ol marw Mr. Charles, yn pwyso arno i ddyfod. i'w tref hwy i gadw yr ysgol, ac anogent ef i ymadael o Aberdyfi, lle oedd y pryd hwnw yn fychan a di-nôd, gan dybied. yn ddiameu y buasai unrhyw ysgolfeistr yn neidio at y cynygiad. Mae y brodyr yn Nolgellau yn pwyso eu hachos eu hunain ymlaen. "Peidiwch," meddant, "a meddwl am aros ddim yn hwy na Chymdeithasfa Abermaw fan bellaf." Mae yntau yn ateb o Aberdyfi yn y geiriau canlynol:— "Mae taerni fy anwyl ysgolheigion yn Aberdyfi, ynghyd a fy anwyl gyfeillion yn mron tori fy nghalon; a golwg ar iselder yr achos yn ein plith, ac y byddaf finau wrth symud yn foddion i'w iselhau yn is; nis gwn beth a wnaf. Nis gallaf ddisgwyl cael rhan yn ngweddïau fy mrodyr a'm chwiorydd, i ddyfod i'ch plith chwi yn bresenol. Ac un o'r rhesymau sydd genyf i beidio ymadael oddiyma ydyw, fy mod wedi addaw bod yma am chwarter; ac os amgen, mi a fyddaf dorwr amod, ac o ganlyniad yn achos o lawer o gablu. Hyn oddiwrth eich annheilyngaf wasanaethwr, LEWIS WILLIAM, Aberdyfi, Ionawr 7, 1817."

Ymha le y ceir y fath gydwybodolrwydd ymysg holl gyfathrach rhwng dynion â'u gilydd?

Dengys yr ymddiddan canlynol fu rhyngddo â Marchog y Sir—hanes a geir ymysg ei bapyrau ei hun—y modd y dygid yr ysgolion rhad ymlaen yn amser Mr. Charles, ynghyd a'i hunan—aberthiad yntau i'r gwaith:—"Holai Marchog y Sir, a pherchen y rhan fwyaf o'r plwyf (Llanfachreth), Syr Robert Vaughan, Nannau [mae Plas Nannau o fewn milldir i Lanfachreth], lawer arnaf am hanes y Methodistiaid, a gofynai faint o gyflog oeddwn yn gael y chwarter am gadw yr ysgol. Gwyddai mai ysgol rad oedd i'r plant. Dywedwn wrtho mai