Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/146

Gwirwyd y dudalen hon

ardal, ydoedd fod gwedd grefyddol hollol arnynt. Y Beibl, Llyfrau Elfenol y Parch. Griffith Jones, Llanddowror; Sillydd Mr. Charles, a'r Hyfforddwr, yr hwn a elwid fynychaf y pryd hwnw wrth yr enw "Llyfr Egwyddorion,"—dyna yr holl lyfrau a ddefnyddid. Cynghorai yr athraw duwiol y plant sut i ymddwyn yn holl amgylchiadau bywyd, ar hyd y ffyrdd, ac yn eu cartrefi. Crefydd yn gyntaf oedd arwyddair yr Ysgolion Rhad Cylchynol ymhob man tra buont o dan arolygiaeth Mr. Charles, a thra bu Lewis William yn athraw iddynt. Weithiau torai allan yn orfoledd, nid yn unig wrth iddo holwyddori yr ysgolion ar y Sabboth, ond ymysg y plant eu hunain wrth iddo eu holwyddori yn yr ysgol ddyddiol. Yn amser Diwygiad Beddgelert y mae hanes am orfoledd neillduol yn tori allan ymysg y plant, yn nghapel Bryncrug, tra yn cael eu holwyddori gan Lewis William ar ddydd gwaith, ganol cynhauaf gwair. Yr oedd John Jones, Penyparc, fe ddywedir, gydag ef yn yr ysgol y diwrnod hwnw. Yr oedd y drysau yn gauad, a dywed rhai eu bod wedi eu cloi. Y gwragedd yn clywed eu plant yn gwaeddi, a ymgasglent ynghyd o bob cwr i'r pentref, ac ymdyrent o amgylch y capel, yn methu yn lân a deall y gwaeddi oedd oddimewn i'r capel, ac yn tybied fod rhywun yn haner ladd y plant; a gyrasant gyda phob brys am eu gwyr i ddyfod yno o'r caeau gwair, hyd nes yr oedd y court o amgylch y capel wedi ei lenwi gan wyr a gwragedd, mewn pryder dirfawr am eu plant. A mawr oedd eu llawenydd pan ddeallasant nad oedd dim niwed wedi digwydd iddynt, ond mai gorfoleddu yr oeddynt hwy a'r ysgolfeistr gyda'u gilydd.

Gwelodd yr ysgolfeistr duwiol lawer o orfoledd, a bu llawer o gymundeb rhyngddo â Duw yn y capel hwn. Hen le cysegredig. Y capel wedi ei adeiladu y cyntaf ond un yn yr holl gylch rhwng Afon Dyfi ac Afon Abermaw. Adroddai Mr. Jones, gynt o Gwyddelfynydd, beth amser yn ol, am