hwnw, a chauwyd yr ysgolion oll i fyny yn 1779, hyd nes y daeth y Scheme i weithrediad drachefn yn 1809. Yr oedd yr unig ffynhonell i gyfranu addysg i dlodion a gwerin Cymru yn awr wedi darfod pan y darfyddodd Ysgolion Madam Bevan yn 1779.
Yn yr ystad hon, heb fod odid yr un ysgol yn yr holl wlad, y cafodd Mr. Charles Ogledd Cymru ar ei ymsefydliad yn y Bala. Clywsai yn nyddiau ei febyd, mae yn bur sicr, am Ysgolion Cylchynol Mr. Griffith Jones, oblegid yr oedd wedi ei eni a'i fagu yn agos i Landdowror, ac yr oedd yn bump oed pan fu y gwr enwog hwnw farw. Mae yntau ei hun yn dechreu ar waith cyffelyb yn y Bala, yn y flwyddyn 1785. Anturiaeth ydoedd hon a fuasai yn digaloni unrhyw ddyn heb ei fod yn meddu ffydd gref, ac awydd angerddol i lesoli ei gydgenedl. Nid oedd ganddo neb ond ei hunan yn yr anturiaeth: efe oedd yn cynllunio, ac yn trefnu, ac yn arolygu yr ysgolion. Bychan oedd y dechreuad o angenrheidrwydd; a pha fodd y gallesid disgwyl i gyfnewidiad mawr gymeryd lle mewn gwlad gyfan o ddechreuad mor fychan? O ba le yr oedd yr athrawon i'w cael? Ac wedi cael yr athrawon, o ba le yr oedd eu cynhaliaeth i ddyfod? Cwestiynau oedd y rhai hyn i ffydd yn unig i'w hateb. Mae ef ei hun yn adrodd am y cychwyniad cyntaf, mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo at gyfaill yn Llundain:—
"Rhoddais y cynyg o flaen ychydig gyfeillion am ddechreu ar gydgynorthwyad, at dalu cyflog i ysgolfeistr; a hwnw i gael ei symud o le i le ar gylch, i ddysgu y tlodion i ddarllen, a'u hyfforddi yn mhrif egwyddorion Cristionogaeth, trwy eu catecisio. Yn y flwyddyn 1785 y dechreuodd y gwaith hwn. Ar y cyntaf ni roddwyd ond un ysgolfeistr ar waith; ond fel y cynyddodd y cynorthwyon yr oedd amlhad ar yr ysgolion, hyd onid oeddynt yn ugain o nifer. Rhai o'r ysgolfeistriaid cyntaf bu raid i mi fy hun eu dysgu; hwythau wedi hyny a fuont ddysgawdwyr i eraill a anfonais atynt i ddysgu bod yn Ysgolfeistriaid."
Yr oedd y cynorthwyon tuag at gynal yr ysgolion yn dyfod, yn benaf, oddiwrth ewyllyswyr da o Loegr, yn foneddigion a