Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/22

Gwirwyd y dudalen hon

Ysgol Sul, ac ni adewid neb heb gymhelliad i ddyfod yn aelodau o honi. Telid rhyw gymaint gan y rhieni dros y plant, y pryd hwn, yn enwedig os byddent am ddysgu Saesneg. Mewn rhai engreifftiau ymrwymai personau unigol am gyflog i'r ysgolfeistr ymlaen llaw. Rheolau syml oedd y rheolau, a gofelid, yn benaf dim, i osod gwedd grefyddol ar yr holl addysg a gyfrenid yn yr ysgolion. Mewn cyfarfod athrawon y dosbarth ceir y sylw canlynol,—"Bwriwyd golwg ar Ysgol y Cylch. Ystyriwyd fod ei hamser ar ben yn Llanegryn, Gorphenaf 4ydd, a'i bod i ddechreu un ai yn Llanerchgoediog ai Bryncrug—hyn i gael ei derfynu rhwng John Jones a Harri Jones y Sul nesaf."

Y mae un weithred dda yn arwain i rai eraill. Ac y mae y tebyg yn cynyrchu ei debyg mewn hanesiaeth, yn gystal ag mewn natur a chrefydd. Cynyrchodd yr Ysgolion Cylchynol dueddfryd mewn eraill, yn ngwahanol barthau y wlad, i gyfodi ysgolion o radd wahanol. Bu Evan Richardson, Caernarfon; Michael Roberts, Pwllheli; John Roberts, Llangwm; yn cadw ysgolion dyddiol; pa un a oedd rhyw gysylltiad rhwng y rhai hyn â'r Ysgolion Cylchynol nid ydyw yn hawdd penderfynu. Ac eraill lawer a'u dilynasant hwy, fel y gellir dweyd fod y gareg a daflodd Mr. Charles i'r llyn, yn 1785, yn para i yru y tonau yn eu blaen hyd heddyw.

Yn yr hen ysgrifau y cyfeiriwyd atynt, ceir profion ychwanegol fod yr Ysgolion Cylchynol yn cael eu cario ymlaen ymhen chwe' blynedd ar ol marw Mr. Charles, i ryw raddau yn debyg fel yr oeddynt yn ei amser ef. Ysgrifenwyd y llythyr canlynol gan Mr. John Jones, Penyparc, un o'r ysgolfeistriaid, at ysgolfeistr y cylch ar y pryd:—

"Y Brawd Lewis William,—Bydded hysbys i chwi y penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod brodyr nos Fawrth, y 19eg o Fedi, 1820, ynghylch yr Ysgol Gylchynol.—1. Daeth chwech o gynrychiolwyr dros yr ysgolion canlynol i ymofyn am yr ysgol; Towyn, Dyfi, Pennal, Bwlch, Bryncrug,