i'r dref hono i redegfa ceffylau yr oedd, a thra yn dychwelyd ar hyd yr heol clywai y canu, ac meddai wrtho ei hun, "Mae y rhai hyn gyda gwell gwaith na mi." Ar y funyd aeth saeth lem i'w galon, nes ei sobri yn nghanol ei wylltineb. Dyn o gorff mawr, cryf, cadarn, esgyrnog, oedd Lewis Morris. Efe oedd pen-campwr chwareuon a rhedegfeydd ei wlad, ac yn y cyfryw gynulliadau byddai ar bawb ei arswyd. Wedi iddo ddechreu pregethu, yr hyn a wnaeth ymhen y flwyddyn ar ol ei droedigaeth, byddai llwfrdra a digalondid ar amserau yn ei feddianu yntau. Gan gyfeirio at yr adegau hyn, meddai ef ei hun, "Dywedodd y cyfaill anwyl a pharchus, Mr. Charles o'r Bala, wrthyf, pan yr oeddwn un tro yn myned at yr esgynlawr i bregethu mewn Cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin, oddiar fy mod yn ofnus ac isel fy meddwl. Cofiwch na bydd neb yn gwrando arnoch ond pechaduriaid; ac y bydd y gwirionedd a fydd genych yn fwy na phawb a fydd yn gwrando arnoch.' Ei ddywediad synwyrlawn a gododd fy meddwl i fyny o iselder mawr, ac a fu yn gymorth i mi lawer gwaith wedi hyny." Mynych y gwna Lewis Morris, yn ei Adgofion o hanes ei fywyd, gyfeiriadau cyffelyb o anwyldeb at y gwr byd-glodfawr o'r Bala.
Yr oedd Mr. Charles, tu hwnt i amheuaeth, yn ŵr wrth fodd calon Duw, wedi ei godi yn arbenig ar gyfer anghenion Cymru yn yr oes yr oedd yn byw ynddi, a dyma yn ddiau a rydd gyfrif am y llwyddiant a fu ar bob gwaith yr ymgymerodd ef â'i gyflawni. Yr oedd yn ŵr hoffus yn serch ei gydoeswyr hefyd, ac yn fwyaf neillduol ymysg yr ysgolfeistriaid oeddynt yn gyflogedig yn ei wasanaeth; ac oherwydd yr hoffder a'r cydweithrediad oedd yn bod ar y naill law a'r llall y bu llwyddiant mor fawr ar y gwaith cyntaf yr ymgymerodd ag ef, ar ol ymuno â'r Methodistiaid yn y Bala, ar ddechreuad yr ail haner canrif yn hanes y Cyfundeb, sef rhoddi cychwyniad i'r Ysgolion Rhad Cylchynol. Dyma ddechreuad y llwyddiant