Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/31

Gwirwyd y dudalen hon

ffydd y cyfarwyddwyr yn Llundain bron a diffygio, a buont ar fin galw y cenhadon adref. Ond yn yr awr dywyllaf fe dorodd y wawr, trwy i Pomare, brenin Tahiti, gofleidio Cristionogaeth. Dygodd hyn gyfnewidiad trwyadl ar yr Achos Cenhadol yn Tahiti, a'r ynysoedd cylchynol. Am y deg ar hugain mlynedd dilynol dilynwyd y cyffroad crefyddol yno a llwyddiant bron digyffelyb, ac erbyn y flwyddyn 1819 yr oedd y brenin, yr hwn oedd blaenffrwyth yr Ynys i Grist, wedi adeiladu capel, yr hwn a elwid yn Gapel Brenhinol, yr addoldy mwyaf ei faintioli a adeiladwyd erioed mewn unrhyw wlad. Yr oedd yr addoldy mor fawr fel nas gallai yr un pregethwr wneyd ei hun yn glywadwy ynddo: gosodwyd ynddo dri o bulpudau, a byddai pregethwyr yn llefaru ymhob un o'r tri yr un adeg. Ac ymhen ychydig wed'yn rhifai y cyflawn aelodau yn y maes lle y llafuriai y cenhadwr Cymreig, yn Papara, 363. a'r gynulleidfa gyhoeddus ar adegau, 1200. Parhaodd y genhadaeth i lwyddo dros amryw flynyddau. Wedi hyn, modd bynag, daeth pethau chwerwon i brofi y gwaith da, megys, dadleuon ymysg y cenhadon eu hunain, ymweliadau llongau tramor yn eu masnach â'r trigolion, dylanwad Ewropeaid annuwiol ar foesau yr ynyswyr, dyfodiad y Babaeth i'w plith, ac yn ddiweddaf oll cymerwyd yr ynys gan y Ffrancod, a gwnaed hi yn drefedigaeth Ffrengig.

Bu y Parch. John Davies yn llafurio yn yr Ynys 54 o flynyddoedd, yn fawr ei lafur ac yn fawr ei barch. Cymerai y blaen mewn pethau gwladol a chrefyddol. Llafur mawr, digon i sicrhau enwogrwydd i unrhyw genhadwr, oedd ei lafur llenyddol—cyfansoddi llyfrau yn iaith y brodorion, cyfieithu rhanau helaeth o'r Ysgrythyrau a llawer o lyfrau eraill, pregethu y Sabbothau, ac arolygu yr holl waith. Parhaodd trwy holl flinderau bywyd yn dirf ac iraidd yn ngwaith ei Arglwydd. Ac Awst 11, 1855, cymerwyd ef oddiwrth ei lafur at ei wobr, yn 84 mlwydd oed. Pe buasai gan y Methodistiaid Genhad-