yr olaf. Cafodd ysgolfeistriaid yr Ysgolion Cylchynol training da, can belled ag yr oedd yn myned, i ddyfod yn bregethwyr teithiol ymysg y Methodistiaid.
Y mae yn hysbys fod nifer mawr o bregethwyr wedi cyfodi bron yn ddisymwth, i gynorthwyo Harries a Rowlands ar gychwyniad cyntaf y Diwygiad Methodistaidd. Ymhen saith mlynedd ar ol i Howell Harries dori allan fel seren danbaid unigol yn Nhrefecca y cynhaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf, yn Watford, a'r pryd hwnw yr oedd tua deugain o gynghorwyr wedi cyfodi o honynt eu hunain i'w gynorthwyo, o blith y cymdeithasau a ffurfiasid trwy ei lafur ef ac ychydig weinidogion urddedig eraill. Ac erbyn y flwyddyn 1746, deng mlynedd ar ol y cychwyn cyntaf, yr oedd y cymdeithasau wedi cyraedd saith ugain, a'r cynghorwyr tua haner cant. Yr oeddynt i fod, fel y trefnwyd yn y Gymdeithasfa gyntaf, yn gynghorwyr cyhoeddus a chynghorwyr anghyhoedd, yn ol mesur eu dawn a'u cymhwysderau. Mae yn achos o syndod fod nifer mor fawr wedi cyfodi o blith y werin, mewn amser mor fyr, i fod yn gymwys i addysgu eu cyd-ddynion yn gyhoeddus, wrth ystyried sefyllfa dywyll ac anwybodus y wlad ar y pryd. Prin oedd moddion addysg, a phrinion oedd y Beiblau ymysg y bobl gyffredin; trwy ba foddion, gan hyny, yr oedd y cynghorwyr hyn wedi cael eu haddysgu i ddarllen a deall eu Beiblau? Y mae y Parch. John Hughes, yn Methodistiaeth Cymru, yn priodoli eu haddysgiaeth a'u cymwysderau i Ysgolion Cylchynol y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, ac y mae ef o'r farn mai rhai wedi bod yn ysgolfeistriaid yr ysgolion hyny oedd y cynghorwyr Methodistaidd. Yr oedd yr ysgolion hyny wedi eu sefydlu yn 1730, tua chwe' blynedd cyn i'r diwygwyr, Harries a Rowlands, ddechreu ar eu gwaith. Trwy eu lledaeniad hwy yr oedd y ffordd wedi dechreu cael ei digaregu ar gyfer y gwaith mwy oedd yn dilyn. Fel hyn y dywed Mr. Hughes:—"Mae yn agos yn anghredadwy pa fodd