gyhoeddus, yn yr ysgolion dyddiol a Sabbothol, yr oeddynt bellach wedi cael blas ar hyfforddi eu cyd-ddynion, ac yr oedd tan y diwygiad yn llosgi yn eu heneidiau mewn awyddfryd i enill pechaduriaid at Grist. Yr oedd hefyd elfenau eraill, y pryd hwn, yn cydweithio er chwyddo mintai y rhai a bregethent. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol sefydlu yr Ysgol Sabbothol, torodd diwygiadau allan trwy amrywiol ranau o'r wlad, ac fe ychwanegwyd llawer at nifer y dychweledigion ymhob man. Nid rhyfedd, o dan y cyfryw amgylchiadau, i nifer da o ysgolfeistriaid Mr. Charles gyfodi i fod yn bregethwyr. Yn y cyfnod hwn cyfododd llu mawr o bregethwyr, y rhai a ddaethant yn weinidogion enwog yn eu gwlad yn ser disglaer yn ffurfafen yr Eglwys-y nifer lliosocaf o bregethwyr enwog a gyfododd mewn unrhyw gyfnod yn hanes y Cyfundeb. A chyfrifir rhai a fuont yn cadw ysgol ddyddiol yn rhestr y pregethwyr enwocaf.
Yn ei restr o hen ysgolfeistriaid Mr. Charles, y mae y Parch. Dr. Owen Thomas yn enwi y pregethwr seraphaidd, Robert Roberts, Clynog. Dywed hefyd mai am tua dwy flynedd wedi iddo ddechreu pregethu y bu yn athraw ysgol Gymraeg mewn amryw gymydogaethau yn Eifionydd, tra y cartrefai gyda'i deulu yn Ynys Galed, heb fod ymhell o Frynengan. Yn ei hanes ef dadblygodd yr ysgolfeistr allan o'r pregethwr, ac nid y pregethwr o'r ysgolfeistr. Ond amgylchiadau, mewn rhan, o leiaf, a'i gyrodd ef i gadw ysgol. Daeth ei iechyd mor fregus, fel nas gallai mwy ddilyn y gorchwylion y buasai arferol â hwy yn flaenorol, fel gwas cyflogedig yn llafurio gyda'r amaethwyr. Nid ydyw mor eglur ychwaith iddo ef fod yn athraw cyflogedig o dan Mr. Charles. Fel y canlyn yr ysgrifena y Parch. Richard Jones, y Wern, am dano yn ei Gofiant: "Treuliodd rai blynyddau ar y dechreu yn cadw ysgol Gymraeg, yn ardaloedd Eifionydd, yr hon oedd yn cael ei chynal trwy ewyllys da yr amrywiol ardaloedd yn y