i'r Ysgol! Bryn-y-gath, o bob lle yn y byd, fuasai y lle olaf i ymgeiswyr am y weinidogaeth fyned i chwilio am addysg, yn yr oes aml-freintiog hon. Y mae pob to o efrydwyr sydd wedi bod yn Athrofa y Bala yn gwybod pa le y mae Abergeirw. Oddeutu milldir i'r de orllewin o Abergeirw, y mae Bryn-y- gath. Ffermdy unigol ydyw, a'i sefyllfa ar ben llechwedd uchel, uwchlaw ceunant rhamantus, mewn rhandir anhygyrch ac anghysbell, yn y pellderoedd pell, rhwng bryniau Meirionydd, ddeng milldir hir o Ddolgellau, saith o Drawsfynydd, a deg neu well dros y mynydd noethlwm, o'r Bala. Yno y bu un o bregethwyr cyntaf Gorllewin Meirionydd yn derbyn ei addysg, yn un o Ysgolion Cylchynol y dyddiau gynt. Pregethai Mr. Charles un tro, ar ddiwrnod teg o haf, yn yr awyr agored o flaen tŷ Bryn-y-gath, a thra yr oedd yn egluro yn ei bregeth am ail enedigaeth, dywedai rhai o'r bechgyn oeddynt wedi d'od i fyny o'r cymoedd i'r odfa, y naill wrth y llall, "Glywi di, glywi di, y dyn yn son am eni ddwywaith!" Mor fyred oedd eu gwybodaeth fel na feddent yr un dychymyg am ail enedigaeth. Bu rhai o berthynasau Mrs. Charles yn byw yn Bryn-y-gath ychydig yn flaenorol i'r amser crybwylledig. Ychydig yn is i lawr na'r lle, yr ochr arall i'r ceunant, y mae Cwmhwyson, neu fel y swnir ef gan y cymydogion Cwmeisian, man genedigol Williams o'r Wern.
Yn y lle hwn a lleoedd cyffelyb, megis y dywedir yn ei fyrgofiant yn y Drysorfa Ysbrydol, yn "symud o le i le yn mharthau uchaf Swydd Meirion," y treuliodd John Ellis ddeng mlynedd o'i amser gyda'r Ysgol deithiol. Ond er yr anfanteision mawrion, mewn ardaloedd noethlwm, anghysbell, teneu eu poblogaeth, byr eu hamgyffredion, fe lwyddodd yn fawr yn y swydd o ysgolfeistr, i addysgu llawer o ieuenctyd y wlad, yn gystal ag yn y swydd uwch o bregethwr yr efengyl, fel y gadawodd argraff ddaionus ar y wlad yr oedd yn byw ynddi, ac y mae coffa am dano eto, ymhen yr holl flynyddoedd