Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

wedi iddo fyned i ffordd yr holl ddaear. Dywediad Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, am dano ydoedd, "Yr oedd John Ellis, y Bermo, yn HYPER-Calfin mewn athrawiaeth, ac yn moral agent yn ei fuchedd a'i rodiad yn y byd." Ymhen llai na deng mlynedd wedi iddo ddechreu pregethu, bu raid iddo ef a'i frodyr yn y weinidogaeth gymeryd trwydded (license) i bregethu, er mwyn ei ddiogelwch rhag cosb y gyfraith. A ganlyn ydyw y drwydded, yr hon sydd wedi ei hysgrifenu ar groen, ac wedi ei harwyddo gan y swyddog gwladol, yn Llys Sirol y Bala, yn mis Gorphenaf, 1795:—


"Thomas A Beckett Sessions."
MERIONETH}
To WIT. }
This is to certify that John Ellis, of Barmouth, in the' County of Merioneth, hath this seventeenth day of July, One Thousand Seven Hundred and Ninety Five, in open Court at the General Quarter Sessions of the Peace held at Bala in and for the said County, before Rice Anwyl and Thomas Davies, Clerks, being Justices assigned to keep the peace in and for the said County, taken the usual oath and subscribed the Declaration to qualify himself as a Protestant Dissenting Preacher and Teacher according to the Act of Parliament in that case made and provided.
EDWARD ANWYL,
Dpt. Clk. of the Peace."



Mae y Drwydded, fel yr ysgrifenwyd hi yn y Llys Sirol, yn awr yn meddiant wyr John Ellis, sef Mr. John Timothy, Einion House, Friog, yr hwn sydd wedi bod yn flaenor ffyddlawn yn eglwys y Friog am lawer o flynyddoedd, ac yn Abermaw am lawer o amser yn flaenorol. Mae ef yn bwriadu cyflwyno y drwydded i Lyfrgell Athrofa y Bala, os nad ydyw eisoes wedi gwneyd hyny, i fod yn goffadwriaeth weledig i'r oesoedd a ddaw o helyntion yr amseroedd gynt.

Y mae yn perthyn i eglwys y Methodistiaid yn Abermaw (capel Caersalem yn awr) hen lyfr, yn cynwys rhestr o enwau y cyflawn aelodau am y flwyddyn 1810. Rhif y meibion, 22;