duwyr, tra yr oedd ef eto yn dra ieuanc, ac yn ol pob tebygolrwydd cyn iddo gael ei argyhoeddi, "Dos di, William, i'w gwrando, ac i edrych pa beth sydd ganddynt; ti elli di wybod a oes ganddynt rywbeth o werth." Yr oedd hefyd yn dyner ac addfwyn ei dymer, ac yr oedd yn feddianol ar gymeriad da a chrefydd amlwg-cymhwysderau a ystyrid y rhai penaf i gymeryd gofal yr ysgolion dyddiol dan sylw. Yr oedd yn 35 mlwydd oed pan y rhoddwyd y cychwyniad cyntaf i'r Ysgolion Rhad, ac yr oedd yn 40 pan ddechreuodd bregethu, yr hyn a gymerodd le o gylch y flwyddyn 1790. Oddeutu y tymor hwn, yn lled debygol, y bu am amser byr yn ysgolfeistr. Mewn un lle yn unig y ceir crybwylliad am dano yn cadw ysgol o dan arolygiaeth Mr. Charles, sef yn yr Hen Felin, mewn cwm cul, neillduedig, oddeutu milldir o Aberdyfi, yn nghyraedd golwg y ffordd fawr sydd yn arwain oddiyno i Fachynlleth. Yn y cwm neillduedig hwn, yn yr Hen Felin, y dechreuwyd yr achos crefyddol yn Aberdyfi, ac yno y bu yr ysgolfeistr hwn yn cadw yr ysgol. Nid oes wybodaeth i William Pugh fod lawer oddicartref gyda'r Ysgolion Cylchynol, ac nid yw yn debyg iddo fod wrth y gorchwyl hwn yn hir. Efengylwr defnyddiol yn nghylchoedd ei gartref ydoedd. Yn ei gartref, yn y Llechwedd, y bu yn preswylio dros dymor maith ei fywyd. Yn ei gartref yr ydoedd pan yr anfonwyd deuddeg o filwyr arfog, y rhai a aethant i mewn i'w dŷ yn foreu iawn, ar ddydd Gwener, yn nechreu haf 1795, ac a'i daliasant yn ei wely. Wedi derbyn y wŷ's aeth gyda'r milwyr i lawr i Dowyn i ymddangos o flaen yr Ustus Heddwch, yr hwn a'i dirwyodd i 20 am bregethu heb fod ganddo drwydded gyfreithiol i wneuthur hyny. Yr amgylchiad hwn ynghyd ag ychydig o rai cyffelyb, a greodd gynwrf mawr yn y Cyfundeb, ac a arweiniodd i'r penderfyniad i osod personau ac anedd-dai o dan amddiffyniad cyfraith y tir, yn y flwyddyn grybwylledig.