yn enyd o'r nos, a gwaeddais wrth y tollborth yno; daeth y gwr yn ei grys i agor y gate, ac a ofynodd i mi i ba le yr oeddwn yn teithio? Ymlaen,' ebe finau. Y mae yn fyd garw tua Thowyn,' meddai ef; 'mae yno wr boneddig yn erlid. pregethwyr y Methodistiaid; ac efe a rydd ddeugain punt am ddal un o honynt,' gan fy enwi i, 'ac y mae y milwyr yn chwilio yn ddyfal am dano.' Ymlaen yr aethum, a chyrhaeddais balas Llwyngwair mewn diogelwch, lle cefais dderbyniad croesawgar, a charedigrwydd mawr; ond ni chefais license i bregethu cyn y Chwarter Gwyl Mihangel, pan y daeth Cadben Bowen gyda mi i Gaerfyrddin, ac a gafodd un i mi yno."
Nid oedd pall bellach ar weithredoedd creulawn y gŵr erlidgar hwn i geisio llethu y crefyddwyr. Clustfeiniai am unrhyw gwynion yn erbyn y saint, ac fel Saul o Tarsus, taranai fygythion i'w herbyn, gan geisio eu difetha trwy y dull hwn o erlid a gymerasai mewn llaw. Heblaw gosod dirwy o £20 ar William Pugh, gosododd ddirwy o £20 ar Griffith Owen, Llanerchgoediog, £20 ar Edward Williams, Towyn, ac £20 ar dŷ yn Bryncrug. Nid oedd eto yr un capel wedi ei adeiladu yn yr holl ddosbarth hwn o'r wlad; yr oedd yma naw neu ddeg o eglwysi wedi eu ffurfio er ys pedair neu bum' mlynedd, a'r gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynal mewn tai anedd. Yr oedd y crefyddwyr wedi eu dal gan ddychryn, tafodau y pregethwyr wedi eu distewi, a hwythau wedi cymeryd y traed i ffoi, a rhai o'r dynion a'u derbynient i'w tai yn ffoi gyda hwy, ac am dymor byr yr oedd yr holl achosion crefyddol rhwng y ddwy Afon wedi sefyll yn hollol. Mr. Charles oedd eu noddwr yn eu trallod a'u hofnau. Ato ef yr oeddynt yn apelio am gydymdeimlad a chyfarwyddyd. Yr oedd llawer o ymohebu â'r Bala yn y cyfwng pwysig yr oedd yr eglwysi ynddo. Ac oddiyno y cododd. ymwared yn yr amgylchiad hwn, fel llawer amgylchiad arall. Cymerwyd yr achos i ystyriaeth mewn Cymdeithasfa yn y