honynt ar waith fel yr oedd y cyfleusderau yn rhoi. Lled sicr ydyw i'r bendithion a gyrhaeddwyd drwyddynt gyraedd i'r holl siroedd, ond y mae yn eithaf rhesymol i ni gredu fod cylch eu gweithgarwch uniongyrchol yn gyfyngach. Cyfodai nifer lliosocach o ddynion cymwys i fod yn athrawon mewn rhai cymydogaethau, a deuai galwadau am yr ysgolion yn fwy, a dylanwadai y naill beth ar y llall, fel y mae yr alwad yn effeithio ar y cynyrch, a'r cynyrch yn effeithio ar yr alwad. Dywed y Parch. Robert Jones, yn Nrych yr Amseroedd, mai mewn tair neu bedair o'r siroedd y sefydlwyd yr ysgolion. Dyma ei eiriau ef:—"Tua'r amser hwnw, cafodd y Parchedig T. Charles ar ei feddwl, ynghyd a rhai o'i gyfeillion yn Lloegr, sefydlu rhyw ychydig nifer o ysgolion rhad, trwy dair neu bedair o Siroedd Gwynedd, i'w symud o fan i fan bob haner blwyddyn; rhoddes y rhai hyn gychwyniad da, a chynydd dysgeidiaeth i lawer o dlodion. Ond tuhwnt i bob peth, yr Ysgolion Sabbothol a helaethodd freintiau yr oes bresenol, fel na bu y Cymry, er pan y maent yn genedl, mor gyflawn o ragorfreintiau ag ydynt yn y dyddiau hyn." Ysgrifenai Robert Jones Ddrych yr Amseroedd ymhen tua phum' mlynedd ar ol marw Mr. Charles, oblegid cyhoeddwyd y llyfr yn nechreu 1820. Yr oedd yr awdwr yn fwy hyddysg yn hanes. Cymru, o leiaf yn hanes crefydd Cymru, na neb arall am haner olaf y ganrif ddiweddaf, a chwarter cyntaf y ganrif bresenol, bu yn cadw ysgol ei hun, o fan i fan, o dan arolygiaeth Madam Bevan, ac yr oedd yn gwybod cystal a neb am Ysgolion Cylchynol Mr. Charles, oblegid yr oedd y ddau yn gyfeillion mynwesol. Nid oes, gan hyny, ddim amheuaeth o berthynas i gywirdeb ei dystiolaeth ef.
Nid ydyw Robert Jones yn enwi y tair neu bedair o Siroedd Gwynedd y sefydlwyd yr ysgolion ynddynt. Ond gallwn benderfynu hyd sicrwydd fod Sir Feirionydd a Sir Drefaldwyn. yn ddwy o honynt. Mae y ffaith fod Mr. Charles ei hun yn byw