Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/70

Gwirwyd y dudalen hon

flwyddyn 1808, sef blwyddyn wedi i'r Parch. Robert Evans ddechreu ar ei waith gyda'r ysgolion. Fel hyn y dywed Mr. Charles yn ei lythyr:—"Y mae, hyd heddyw, lawer o leoedd tywyll mewn amryw ranau o'r wlad, ymha rai nid oes dynion addas, ac ewyllysgar hefyd, i osod Ysgolion Sabbothol ar droed. Ac am hyny, fy unig feddyginiaeth ydyw anfon Ysgolion Cylchynol i'r cyfryw leoedd..... Yn bresenol y mae ystor yr ysgolion yn isel iawn, yn llai na digon at haner y draul yr wyf dani y flwyddyn hon. Ar y cyntaf yr oeddwn yn cyflogi meistriaid am wyth bunt yn y flwyddyn; yn awr yr wyf yn talu pymtheg; fel yr oeddwn yn gallu cadw ugain y pryd hyny ar yr un gost a deg yn bresenol. Ac y mae yn ofid. arnaf am nad yw yn fy ngallu i osod mwy o ddysgawdwyr ar waith, gan fod eu heisiau yn dra amlwg mewn amryw ranau o'r wlad."

Bu y Parch. Robert Evans yn dra llafurus a llwyddianus gyda goruchwylion yr ysgol symudol. Yr oedd yn ddyn wedi ei dori allan i'r gwaith. Meddai gymhwysder arbenig i addysgu plant, a dawn i ganu: denai ef y plant, a denai y plant eu rhieni. Talodd y gwaith yn dda iddo yn y byd hwn. Bu yn foddion i wrthweithio llygredigaethau a hen arferion. annuwiol y wlad. Gwelodd lawer o ffrwyth ei lafur, er llawenydd annhraethol iddo ei hun. Y mae hanes am dano. yn cadw ysgol mewn llawer o fanau ar hyd Sir Drefaldwyn, y pen uchaf yn gystal a'r pen isaf,—yn y Drefnewydd; yn y Rhaiadr am flwyddyn gyfan, cyn bod y lle wedi ei osod o dan ofal Cenhadaeth y Deheudir; yn Camlan, ger Dinas Mawddwy, o 1815 i 1818. Yn y flwyddyn ddiweddaf a enwyd symudodd i Lanidloes i fyw, pan yn 34 mlwydd oed, wedi bod yn cadw yr ysgol am un mlynedd ar ddeg, ac yn pregethu am wyth mlynedd. Yr hyn a'i dygodd i drigianu yn Llanidloes ydoedd priodi gwraig grefyddol o'r enw Jane Thomas, yr hon oedd yn y fasnach wlaneni, ac yn chwaer i Mr. John