Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/79

Gwirwyd y dudalen hon

pryd oedd yn cadw math o ysgol i barotoi dynion ieuainc i'r weinidogaeth. Yr oedd gydag ef yno, Ffoulk Evans, a'r hynod Dafydd Rolant, y Bala. Llawer o droion trwstan a digrif a adroddid am y dynion ieuainc tra yn yr ysgol yn Ngwrecsam, oherwydd nad oeddynt yn gwybod ond y nesaf peth i ddim o'r iaith Saesneg. Cofus gan ysgrifenydd hyn o hanes, ei fod ar ymweliad yn y Pentre, cartref Dafydd Rolant, yn ardal Llidiardau, ger y Bala. Adroddai yr hen batriarch rai o'r troion trwstan a ddigwyddent, ac ymhlith pethau eraill, dywedai ddarfod i Mr. Hughes ofyn iddo ef ofyn bendith ar y bwyd yn Saesneg, ac iddo yntau ufuddhau, gyda hyny o Saesneg oedd ganddo yn y geiriau canlynol:—"O Lord, bless this lump of beef, through Jesus Christ. Amen."

Ar ol yr adeg yma, aeth gwrthddrych y sylwadau hyn i'r Dyffryn i gadw ysgol yr ail waith. Tra yr oedd yno yr adeg hon yr ymunodd y Parch. Richard Humphreys â'r Eglwys yn y Dyffryn. Bu y ddau yn gyfeillion cu, yn cydweithio llawer a'u gilydd, ac yn ddwy golofn gref o dan yr achos yn y sir am flynyddoedd meithion. Tra yn y Dyffryn yn cadw ysgol y tro hwn ymbriododd Daniel Evans gyda Margaret Evans, Penycerrig, Harlech, o gylch y flwyddyn 1822, a Mr. Humphreys, o'r Dyffryn oedd ei was priodas. Penderfynodd hyn. ei drigfan bellach am weddill ei oes yn Ngorllewin Meirionydd. O hyn allan daeth yn bregethwr a ffermwr, yn lle yn bregethwr ac ysgolfeistr. Wrth yr enw Daniel Evans, Harlech, yr adnabyddid ef bellach weddill ei oes, oblegid mail yno y treuliodd y rhan bwysicaf o honi. Symudodd o Harlech i'r Penrhyn i gadw siop, ac yno y treuliodd ugain mlynedd olaf ei oes.

Derbyniwyd Daniel Evans yn aelod o Gyfarfod Misol Sir Feirionydd, fel pregethwr, yn y flwyddyn 1815. Ac ar yr un pryd ag ef yr oedd y Parchedigion Lewis William, Llanfachreth; Richard Jones, y Bala; Richard Roberts, Dolgellau; a