Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/83

Gwirwyd y dudalen hon

ysgrifen weddol fân. Sylwadau ar hanes profiad blaenoriaid y lle, ynghyd a blaenoriaid a phregethwyr a dderbynid yn aelodau newyddion, a fyddai cynwys rhan helaeth o'r un tudalen a geid am bob Cyfarfod Misol. Yr oedd delw Mr. Charles i'w weled yn amlwg iawn ar ei waith yn cofnodi hanes cyfarfodydd. Rhan helaeth o waith y brodyr ymhob Cyfarfod. Misol, yr adeg hono, fyddai trefnu y teithio mawr oedd yn y wlad y rhai a ddeuent i mewn i'r sir, a'r rhai a elent allan o'r sir. Yr engreifftiau canlynol allan o'r Llyfr Cofnodion a roddant gipolwg ar waith yr hen frodyr yn y blynyddoedd hyny. Yn Nghyfarfod Misol Ystradgwyn, yn y flwyddyn 1840.

"Penaerfynwyd y brodyr canlynol i fyned o'r sir: Richard Roberts, i Sir Fon; Richard Humphreys, i Sir Drefaldwyn; a Robert Griffith, Dol- gellau, heb benderfynu i ba le."

"Dolgellau Mawrth, 1841; rhoddwyd caniatad i Owen Williams, Towyn, i fyned i Sir Aberteifi am naw diwrnod"

"Sion, Mai, 1841, rhoddwyd caniatad i John Williams, Llanfachreth, i fyned i'r Deheudir; David Williams, Talsarnau, i Sir Drefaldwyn; a Robert Griffith, Dolgellau i rywfan."

Y cyhoeddiadau pell ymlaen hefyd oeddynt yn peri blinder i'r frawdoliaeth y pryd hwnw. Yn Nghofnodau Cyfarfod. Misol y Cwrt, yn Medi 1844, haner can mlynedd i eleni (1894), cawn sylwadau ar y niwed o roddi cyhoeddiadau ymhell ymlaen, ac yn y cyfarfod hwnw, anogwyd i syrthio yn ol ar yr hen drefn "dim ond dau fis." Mewn cysylltiad â'r cofnodiad hwn, dywed y Parch. Griffith Williams Talsarnau, pan yn ysgrifenu byr gofiant am Daniel Evans, yn y flwyddyn 1871, "Beth pe buasai yr hen frodyr yn cael gweled Dyddiadur rhai o flaenoriaid neu bregethwyr y blynyddoedd diweddaf hyn? caent weled pob Sabboth ymhob mis am flwyddyn, dwy, a thair, wedi eu llenwi hyd yr ymylon âg addewidion, a'r rhai mwyaf blaenllaw yn dechreu pwyntellu y bedwaredd