Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/95

Gwirwyd y dudalen hon

cyngor hwn ar hyd ei oes. Rhoddodd ei dad gyngor rhagorol iddo un tro ynghylch pregethu. Yr oedd y ddau mewn ymddiddan â'u gilydd ar ryw fater Ysgrythyrol, ac meddai y mab, "Mae y cyffredinolrwydd yn barnu fel a'r fel, fy nhad." Yr hen wr a'i hatebodd yn ddioed, "Dear me, fachgen, beth ydyw y gair mawr yna sydd genyt?-Y cyffredinolrwydd!- Mae yn air rhy hir o lawer. Cymer ofal rhag i ti wrth bregethu fyned i ddywedyd geiriau mawr fel y. Dywed di-y cyffredin-os bydd eisieu, ac nid-y cyffredinolrwydd." Yr oedd Thomas Owen wedi ei brentisio i fod yn grydd, yn ol crefft ei dad. Ond rywbryd oddeutu yr amser y dechreuodd bregethu, fe ddarfu Mr. Charles ei gymell i fyned i gadw un o'r Ysgolion Cylchynol, i'r hyn yr ufuddhaodd. Yr ydym yn gweled o hyd mai yn y Bala ac oddeutu y Bala yr oedd. Mr. Charles yn cael y nifer liosocaf o ddefnyddiau i fyned i gadw yr ysgolion; yr ydym yn cyfarfod yn wastad hefyd a'i graffder yn pigo allan y dynion mwyaf crefyddol; ac yn ol pob hanes, ymddengys mai efe fyddai yn cymell y dynion cymwys i'r gwaith, ac nid hwy fyddent yn cymell eu hunain, Rhed yr hanes ddarfod i Thomas Owen fod am un tymor yn cadw yr Ysgol yn Waen y Bala, yn y tŷ a elwid Caerleon. "Bu hefyd yn cynal ysgol am ysbaid yn eglwys Llanfor, gerllaw y Bala, lle yr oedd yn myned ymlaen yn dra llwyddianus. Yr oedd yn catecheisio y plant yn egwyddorion mawrion Cristionogaeth, heb fod mewn un modd yn sectaidd; ond er hyny, daeth yr offeiriad i droi yr ysgol allan o'r eglwys, am ei bod, meddai ef, yn dwyn Methodistiaeth i mewn iddi. Un prydnawn, dyma yr ysgolfeistr ieuanc, a'r plant, yn cael eu gyru allan ar ffrwst o'r hen anedd gysegredig; ac wele y ffarwelio mwyaf cynhyrfiol yn cymeryd lle: y plant o amgylch eu hathraw yn crio yn dost, ac yntau yn wylo gyda hwy, ac yn gweddio drostynt. Trwy garedigrwydd y boneddwr clodus, Mr. Price, o'r Rhiwlas, cafodd fenthyg llofft yr hearse yn y