minnau, o'r diwedd, i setlo'r elyniaeth rhyngom unwaith am byth!
Wrth wylio deuoedd eraill yn brwydro cyn dyfod ein tro ni, ac ambell un ohonynt yn bwrw'r llall i ebargofiant, dyfelais lawer a oedd Tomas wedi datblygu'r fath ddwrn. A barnu wrth ei olwg, i'r un cyfeiriad y rhedai ei freuddwydion yntau yn ei berthynas â mi. Ond fe ddarfu'r synfyfyrio pan alwyd am "Tomas and James" i'r cylch.
Gan mai dwy rownd yn unig a ymladdwyd rhyngom, nid gorchwyl anodd fydd disgrifio'r ysgarmes fythgofiadwy honno.
Nid hir y bûm yn y cylch nad oeddwn wedi anghofio pob cyfarwyddyd a gefais gan fy hyfforddwr. Fy iechydwriaeth oedd y ffaith bod yr un peth yn wir am fy ngwrthwynebydd. Fe dduliwn ei ên fel y mynnwn. bron. Yntau'n fy nghyrraedd innau gyda'r un rhwyddineb anochel. Hwyl ddychrynllyd bob ochr, ond dim celfyddyd, a'r clapio'n fyddarol o'n cwmpas, er bod gormod o chwerthin yn gymysg â'r gymeradwyaeth i'm plesio i. Ond dichon mai myfi oedd