Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/103

Gwirwyd y dudalen hon

Cymerais ei gyngor. Ond y mae'n rhaid bod Tomas wedi cael yr un cyngor; oblegid ar ras y daeth yntau i mewn i'r cylch. A chan fod y naill a'r llall ohonom yn cyrchu at gyffelyb nod, beth oedd i'w ddisgwyl ond yr hyn a ddigwyddodd ? Daeth ein talcen- nau i wrthdarawiad annisgwyliadwy, a'r sŵn fel ergyd o lawddryll, yn union fel y gwelais bennau dau hwrdd mynydd yn gwrthdaro mewn ysgarmes ar Garn Jack Rees. Y peth nesaf a welais oedd breichiau Tomas yn ymollwng yn llaes i'w ochrau, ei lygaid yn rholio'n wynion, a'i gorff yn gŵyro'n ôl a syrthio fel hen golfen grin. Nid cynt y dechreuais orfoleddu nag y daeth i minnau ryw awydd anwrthwynebol i wneud yr un peth. Teimlwn ddeddf Isaac Newton yn fy nhynnu o'r tu ôl; a dyna fi i lawr yn rhondyn ar asgwrn fy nghefn a gorwedd yn serfyll a diymadferth ar lawr, a synnu mai Lloyd George a glywn yn awr yn annerch torf ym mhafiliwn yr Eisteddfod . . .

"Pwy enillodd, Sanders?" Wrth ofyn y cwestiwn, sylwais nad yn y cylch yr oeddwn bellach, nac yn agos ato chwaith.