garedig ei ddisgrifio, diflannodd pob amheuaeth. Tomas fy ngelyn oedd fy nghyd- letywr yn awr; a chan fod Ffawd wedi penderfynu ein taflu yn y diwedd dan yr un gronglwyd, mae'n syndod iddi ganiatáu inni ddwy ystafell ar wahân a pheri nad oedd raid inni gyfathrachu â'n gilydd.
Buom yno am rai wythnosau yn pasio'n gilydd yn dawedog a swrth, a'r naill yn brasgamu am gae'r parêd bob bore heb air o rybudd i'r llall, cyn i gyd-ddigwyddiad arall rhyngom roi coron ar y lleill i gyd.
Yr oeddwn yn fy ystafell un nos Wener yn glanhau a sgleinio, fel arfer, ar gyfer parêd y Cyrnol fore trannoeth. Yn sydyn, dyna gnoc nerfus ar y drws o'r tu allan. Gwrandewais yn astud. Dwy gnoc wedyn ychydig yn uwch. Wedi i mi weiddi "Dewch i mewn," dyna'r drws yn agor yn araf; a gwelwn Tomas yn sefyll rhwng gwyll a golau, a ffrâm y drws am dano fel ffram am ddrychiolaeth.
"Dewch i mewn os ydych yn chwennych fy ngweld," ebr fi. Dynesodd at y bwrdd a rhoi ei law ddehau i bwyso arni.