"Mi gymeraf un o'ch sigarennau," meddai. Bydd yn haws siarad."
"Gyda phleser," meddwn, tan estyn golau iddo. Pwffiodd ychydig fodrwyau o fwg i'r awyr cyn siarad drachefn.
Yr ydym wedi gweithredu fel dau ffŵl; a hynny o'r dechrau," meddai. "Nid i ddweud hynny y mynnwn eich gweld chwaith, ond i ofyn cwestiwn."
"Wel, os medraf ei ateb, mi a wnaf heb gelu dim. Felly, allan ag ef, Tomas!"
"Mi glywais beth amhosibl heddiw," meddai. "Mi wn mai tynnu fy nghoes y maent. Er hynny, mi garwn wneud yn siŵr, a chael y sicrwydd hwnnw o'ch genau chwi eich hunan. A all fod gwir i'r hyn a glywais, dywedwch, mai pregethwr ydych?"
"Paham amhosibl, Tomas? Dyna air go fawr, yn enwedig i filwr."
"Wel, James, 'does dim o'ch cwmpas, rywsut, yn awgrymu'r pregethwr."
Codais ar fy nhraed, a'i ateb gyda chryn deimlad: "Pa beth o gwmpas neb ohonom yn y fyddin sydd yn amlygiad o'r hyn ydym, a'r hen ddiwyg unffurf yma yn diddymu