CYFEILLGARWCH nad oedd y byd yn deilwng ohono oedd ei gyfeillgarwch ef. Un math o gariad yn unig a adwaenai, sef y cariad hwnnw sydd yn ffyddlon hyd angau (hyd at drengi) heb feddwl am na choron y bywyd nac unrhyw wobr arall dan haul. Caru o wynfyd caru a wnâi ef, a'i dâl i gyd yn y gwynfyd hwnnw.
Wrth edrych yn ôl heddiw ar ddyddiau fy ienctid, a gweld ei lygaid siaradus a'i glustiau deallgar, a'i gynffon huodl yn curo "Clywch! Clywch!" ar y llawr pan lefarwn y dwli mwyaf, sylweddolaf na phylodd ymdaith y blynyddoedd ddim ar ryfeddod ei serch—y serch, fel yr awgrymais eisoes, na haeddais mono erioed.
Mi garwn allu maddau fel y maddeuai Jack-maddau'r cam a'i anghofio'n llwyr y funud nesaf. Ni wiw i mi sôn wrtho i mi golli fy nhymer a'i ddolurio, ac yntau'n diolch, tan lyfu fy llygaid a'm clustiau, am gyfle i faddau, a'r gynffon huodl yna yn canu Haleliwia yr un pryd.