flaen rhyw frenhingi diledryw y perthyn. iddo elfennau gwaethaf ei linach. Wedi'r cwbl, beth yw bonedd a gwaedoliaeth onid amlygont deithi sy'n ennyn edmygedd a chyfiawnhau galw eu hil yn hil o uchel dras? Ai enwau gweigion ydynt yn dynodi gwas— eidd—dra tud yn hytrach na'u rhiniau cynhenid eu hunain?
Mi welais rhwng mynyddoedd fy ngwlad werinwyr bucheddol yn moesymgrymu i ryw greadur o yswain oedd yn fynych yn rhy feddw yn ei gerbyd i gydnabod eu cyfarchiad. Yn wir, canfûm hen saint— druain ohonynt!—ar eu ffordd i'r cysegr yn tynnu eu cudynnau i'r "gŵr mawr" hwnnw, ac yntau ar ei ffordd i'r gyfeddach.
Peth felly a fu'n dolurio santeiddrwydd ardaloedd gwledig Cymru am yn hir; gwerin dlawd a'i hymarweddiad yn y nefoedd, a'i bywoliaeth yn rhwym wrth bendefigaeth ddaearol—daearol iawn. Mi wn y gellir dadlau nad gwerin a'i hymarweddiad yn y nefoedd oedd honno a fedrai amlygu'r fath waseidd—dra a rhoi mwy o barch yn fynych i'w meistri anfoesol nag i'w phroffwydi.